Deall rôl Antimatter wrth greu'r Bydysawd

Rydyn ni’n gwella ein dealltwriaeth o’r bydysawd

Bydysawd

Yr Her

Yn ôl cyfreithiau hysbys ffiseg, dylai fod llawer llai o fater yn y Bydysawd na’r hyn rydym yn sylwi arno heddiw.Felly, pam roedd cymaint o fater yn parhau ar ôl y Glec Fawr?Pam na chafodd yr holl fater ei ddistrywio wrth i’r Bydysawd ffurfio?I ble’r aeth yr holl wrthfater?

Dyma’r cwestiynau sylfaenol mae’r Athro Mike Charlton a’i dîm am eu hateb drwy eu gwaith ym maes ffiseg hanfodol.

Y dull

Yr Athro Charlton ynghyd â'r Athro Niels Madsenyr Athro Stefan Eriksson a'u tîm yn mesur rhai o rinweddau gwrthfater, neu wrth-hydrogen yn fwy penodol, sydd yn gyfatebydd gwrthatomig i hydrogen, ond lle mae’r cyfansoddion yn wrthronynnau gyda gwefr gyferbyniol o’u cymharu â’r gronynnau sy’n gwneud hydrogen.Er enghraifft, yn lle electron ceir “gwrth-electron”, neu bositron, ystyrir eu bod yn union yr un ym mhob ffordd ond gyda gwefr drydanol bositif.

Nid yw gwrth-hydrogen yn digwydd yn naturiol.Pan wnaeth y Bydysawd oeri digon i ffurfio atomau, mae’n debyg nad oedd gwrthronynnau ar ôl – felly ni ellid creu gwrthatomau, gan adael i hydrogen arferol oruchafu ar y cosmos.

Felly, er mwyn datrys y prinder gwrth-hydrogen naturiol, mae’r tîm yn creu’r gwrthatomau un ar y tro ac yn eu dal mewn trapiau arbennig lle, drwy fesur yn fanwl iawn, maent yn astudio rhinweddau’r gwrthfater ac yn profi rhai o gyfreithiau dwfn (cymesuredd) ffiseg.

Cynhelir gwaith yr Athro Charlton fel rhan o’r cydweithrediad ALPHA mewn cyfleuster “Ffatri Gwrthfater” arbennig yn CERN, sef y Sefydliad Ymchwil Niwclear Ewropeaidd.Mae ALPHA yn ymdrech ryngwladol sy’n cynnwys tua 50 gwyddonydd o 15 sefydliad ledled y byd.

Tîm

Yr Effaith

Rydym yn gwybod bod cyfreithiau ffiseg yn anghyflawn ac nid oes fframwaith sylfaenol sy’n uno damcaniaethau mecaneg gwantwm a pherthynoledd cyffredinol.At hyn, mae dechreuad yr anghydbwysedd yn y Bydysawd rhwng mater a gwrthfater wedi bod yn benbleth ers sawl degawd.

Felly drwy gymharu rhinweddau gwrthfater a mater yn fanwl rydym yn gobeithio taflu goleuni ar y materion sylfaenol iawn hyn, a fyddai’n cael goblygiadau mawr ar gyfer ein dealltwriaeth o natur, ac efallai rywbryd, yn galluogi datblygu cymwysterau ymarferol i wrthfater.

Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe
Eicon dyfodol cynaliadwy