Professor Michael Charlton

Yr Athro Michael Charlton

Athro Emeritws (Gwyddoniaeth), Physics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295372

Cyfeiriad ebost

508A
Pumed Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton

Trosolwg

Rwy'n ffisegydd atomig arbrofol, gyda diddordebau mewn positronau, positroniwm a gwrth-hydrogen. Rwyf wedi cyfrannu at lawer o agweddau ar ddatblygiad ffiseg gyda phositronau ynni isel ac wedi helpu i sefydlu ffiseg paladrau positroniwm. Ers canol y 1980au rwyf wedi arloesi ym maes ffiseg gwrth-hydrogen. Fi oedd un o sylfaenwyr cydweithrediad ATHENA a gynhyrchodd gwrth-hydrogen oer am y tro cyntaf ac yn ddiweddarach roeddwn yn un o sylfaenwyr cydweithrediad ALPHA. Mae ALPHA wedi cynnal sawl arbrawf ar wrth-hydrogen, gan gynnwys mesuriadau sbectrosgopig sy'n cynnwys cyflyrau cynhyrfol ac isaf a thrwy hynny, cyflwyno oes o ffiseg drachywir gyda gwrth-fater atomig.

Meysydd Arbenigedd

  • Ffiseg gwrth-hydrogen
  • Ffiseg positron a phositroniwm
  • Paladrau positron a dyfeisiau cronni a thrin.
  • Technegau canfod pelydrau gama a gronynnau wedi’u gwefru ag ynni isel

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

Cael fy ethol yn Aelod o Academia Europaea (2020)
Cael fy ethol yn Is-lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer STEMM (2018)
Gwaith gwrth-hydrogen caeth o 2010 yn un o’r 40 papur uchaf o’r 40 mlynedd ddiwethaf yn nathliad pen-blwydd Adran Ynni UDA (2017)
Cael fy ethol i Bwyllgorau Cyllid a Dibenion Cyffredinol Cymdeithas Ddysgedig Cymru (2017)
Cadeirydd sefydlu Pwyllgor Medalau Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru (2016)
Gwaith gwrth-hydrogen yn rhan o “Pioneer 14”, cyhoeddiad i ddathlu ugain mlwyddiant EPSRC (2015)
Cael fy ethol i Gyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru (2014)
Cyd-dderbynnydd (gyda 10 cydweithiwr o Gydweithrediad ALPHA)
Gwobr John Dawson am Ragoriaeth mewn Ymchwil Ffiseg Plasma 2011 gan yr American Physical Society. Dyfyniad: “For the
introduction and use of innovative plasma techniques which produced the first demonstration of the trapping of antihydrogen.” (2011)
Cael fy ethol yn Gymrawd sefydlu Cymdeithas Ddysgedig Cymru (FLSW) (2011)
Gwaith ALPHA ar Gwrth-hydrogen Caeth wedi’i ddewis gan Physics World fel uchafbwynt ffiseg y flwyddyn ar gyfer 2010 (2010)
Cael fy nyfarnu’n Gymrawd Ymchwil Uwch EPSRC (2007)
Dewiswyd gwaith Gwrth-hydrogen fel un o uchafbwyntiau 10 mlynedd gyntaf EPSRC (2005)
Cael fy ethol yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg (FInstP) (2004)
Prosiect Gwrth-hydrogen yn cael ei ddewis fel uchafbwynt EPSRC (1996)
Gwaith paladr Positroniwm yn cael ei ddewis fel uchafbwynt SERC (1988)
Cael fy nyfarnu’n Gymrawd Ymchwil Prifysgol y Gymdeithas Frenhinol (1983)
Cael fy nyfarnu’n Gymrawd Ôl-ddoethurol SERC (1982)

 

Cydweithrediadau