Y Broblem
Er mwyn deall sut a pham nad yw'r newidiadau a welir yn ein hinsawdd heddiw yn naturiol a pham maent yn peri perygl, mae angen i ni ddeall cyd-destun tymor hir yr hinsawdd - sut mae'r hinsawdd wedi newid yn y gorffennol - a sut mae gweithredu dynol wedi effeithio ar yr effaith tŷ gwydr naturiol.
Y Dull
Mae astudio sut mae ein hinsawdd wedi newid drwy'r oesoedd yn rhoi'r newidiadau rydym yn eu gweld heddiw mewn cyd-destun. Oherwydd bod cofnodion metereolegol ar gael am y ganrif ddiwethaf yn unig, mae angen i ni ddadansoddi archifau hinsawdd naturiol i weld y darlun tymor hwy.
Mae'r Grŵp Ymchwil Cylchoedd Coed ym Mhrifysgol Abertawe'n arbenigwyr sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes dadansoddi'r wybodaeth am yr hinsawdd a gedwir mewn cylchoedd coed. Mae'r grŵp yn samplu coed hynafol o goedwigoedd ar bob cyfandir lle mae coed yn tyfu.