Ecosystem Arloesi Dinas-ranbarth Bae Abertawe: Creu amodau er mwyn i syniadau ffynnu yn ne-orllewin Cymru

Rydym yn creu'r amodau i syniadau ffynnu yn ne-orllewin Cymru

Rydym yn creu'r amodau i syniadau ffynnu yn ne-orllewin Cymru

Y Her

Yn dilyn cwymp ei sectorau diwydiannol a gweithgynhyrchu traddodiadol, mae Cymru wedi wynebu amddifadedd economaidd sylweddol ac mae wedi ceisio ailstrwythuro'r economi dros y tri degawd diwethaf. Gan ganolbwyntio ar rôl prifysgolion mewn rhanbarth ôl-ddiwydiannol mae’r Athro Gareth Davies a'i dîm yng nghanolfan ymchwil i-Lab Abertawe wedi bod yn archwilio'r mater cymhleth hwn.

Y Dull

Gyda'r nod o hysbysu polisi ac ymarfer, mae'r gwaith ymchwil wedi bod yn ddamcaniaethol ac yn gymhwysol. Mae archwiliadau damcaniaethol wedi archwilio potensial patentu prifysgol a hefyd edrychwyd ar natur arloesi ecosystemau. Yna mae tîm ymchwil wedi datblygu damcaniaeth newydd o ran ecosystemau arloesi is-ranbarthol. Mae'r gwaith hwn wedi dylanwadu ar lunwyr polisi i fuddsoddi mewn mentrau i gefnogi datblygiad arloesi ar draws de-orllewin Cymru sydd, yn ei dro, wedi rhoi cyfle i'r tîm ymchwil gynnal gwaith ymchwil cymhwysol pellach.

Yr Effaith

Mae'r ymchwil wedi darparu fframweithiau newydd sydd wedi profi'n effeithiol wrth oresgyn y rhwystrau i fasnacheddio a wynebir mewn economïau ymylol.

Mae ein hymchwil wedi annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn datblygu ymagwedd arloesi agored, mynediad agored (OAOI). Mae'r ymagwedd yn hwyluso cyfnewidfa fwy agored o syniadau rhwng diwydiant a phrifysgolion, felly yn y pen draw, gellir mwyafu cyfleoedd masnachol. Y fenter arobryn o ganlyniad i hyn yw AgorIP.

Sefydlwyd AgorIP yn 2016, derbyniodd y fenter hon dros £13m gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (gyda chyllid cyfatebol gan Brifysgol Abertawe) ac fe'i hariennir tan o leiaf 2023. Mae AgorIP yn helpu unigolion a sefydliadau i wireddu potensial eu syniadau, eu cynnyrch a'u hymchwil. Mae wedi meithrin cysylltiadau arbennig o gryf gydag ymarferwyr meddygol, gan arwain at arloesi gwasanaethau megis ap i atal anhwylderau bwyta a phrawf gwaed syml a allai ei gwneud hi'n haws i feddygon teulu ddiagnosio canser y coluddyn. Mae'r ymagwedd a ddatblygwyd gan y tîm ymchwil hefyd wedi cael ei dyfynnu gan sefydliadau megis Pfizer a HPC Wales fel rhywbeth hanfodol wrth ffurfio cydweithrediadau a denu rhagor o fuddsoddiad. 

Tystiolaeth o effaith estynedig y polisi yw buddsoddiad gwerth £1.2bn gan Lywodraeth y DU ym Margen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Caiff ein hymchwil i OAOI ei ddyfynnu fel cyfrannwr pwysig i'r fenter hon.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Decent Work and Economics Growth
Affordable and clean energy UNSDG
Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy UNSDG
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe
Eicon dyfodol cynaliadwy