Rhoi ail fywyd i arian gydag Ail Arian Ltd

Creu atebion cylchol ar gyfer dyfodol gweithgynhyrchu electroneg

Bwrdd cylched

A allai hen electroneg ddod yn dechnoleg y dyfodol?

Mae ailgylchu bellach yn rhan arferol o fywyd bob dydd. Mae gwastraff bwyd, pecynnu cardbord a photeli plastig yn cael eu didoli a'u casglu'n rheolaidd, gan helpu i leihau'r hyn sy'n mynd i safleoedd tirlenwi ac i warchod adnoddau. Eto i gyd, mae gwastraff electronig yn cyflwyno her fyd-eang gynyddol.

Yn 2022 yn unig, cynhyrchodd y byd swm record o 62 miliwn o dunelli o wastraff electronig, ond llai na chwarter gafodd ei gasglu a'i ailgylchu'n ffurfiol.Ond beth sy'n digwydd i'r deunyddiau gwerthfawr sydd wedi'u cuddio y tu mewn i gynhyrchion electronig?

O ffonau symudol a dyfeisiau gwisgadwy i becynnu clyfar a synwyryddion, mae electroneg fodern yn cynnwys deunyddiau gwerthfawr sy'n aml yn anodd eu hadfer unwaith y bydd cynnyrch yn cyrraedd diwedd ei oes. Mae llawer o ddulliau ailgylchu presennol yn dibynnu ar gemegau llym neu brosesau sy'n defnyddio llawer o ynni, gan greu heriau amgylcheddol  eu hunain.

Aeth ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe ati i fynd i'r afael â'r broblem hon, gan ddatblygu dull arloesol a allai drawsnewid gwastraff electronig o fod yn broblem waredu i fod yn adnodd gwerthfawr.

Ailfeddwl sut rydym yn defnyddio deunyddiau gwerthfawr

Gellir olrhain gwreiddiau Ail Arian  i ymchwil a gynhaliwyd yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC) Prifysgol Abertawe.

Am fwy na degawd, bu Dr James Claypole, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredu Ail Arian, yn gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu deunyddiau uwch a thechnolegau argraffu ar gyfer maes electroneg argraffedig sy'n tyfu, maes lle defnyddir inciau arbenigol i greu cylchedau a chydrannau electronig yn uniongyrchol ar arwynebau fel papur, plastig a thecstilau. Sbardunodd un prosiect yn benodol linell newydd o feddwl.

Yn 2018, roedd ymchwilwyr y WCPC yn datblygu elfennau gwresogi printiedig ar gyfer dillad, a ddyluniwyd i helpu athletwyr elitaidd i baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo. Wrth i'r prosiect nesáu at ei gwblhau, dechreuodd y tîm ystyried beth sy'n digwydd i'r deunyddiau gwerthfawr sydd yn y cynhyrchion hyn pan fyddant yn cyrraedd diwedd eu hoes ddefnyddiol.

Datgelodd yr ateb her sylweddol. Defnyddir metelau gwerthfawr, fel arian, yn aml mewn electroneg printiedig oherwydd eu dargludedd rhagorol; fodd bynnag, mae eu hadfer mewn modd effeithlon a chynaliadwy wedi parhau i fod yn anodd.

Yn hytrach na derbyn hyn fel canlyniad anochel i weithgynhyrchu, dechreuodd y tîm archwilio a ellid dylunio deunyddiau electronig gyda’r nod o’u hailgylchu o’r cychwyn cyntaf.

Dylunio electroneg ar gyfer economi gylchol

Y canlyniad oedd inc dargludol arian unigryw, a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer ailgylchu, gan alluogi adfer ac ailddefnyddio deunyddiau gwerthfawr. 

Yn wahanol i ddulliau ailgylchu traddodiadol, mae'r broses sydd wedi'i phatentu yn defnyddio cemegau nad ydynt yn wenwynig a thechnegau magnetig i echdynnu arian o gynhyrchion electronig printiedig. Gellir wedyn ailddefnyddio'r arian a adferwyd yn uniongyrchol wrth gynhyrchu inciau dargludol newydd, gan greu system gylch-gaeedig sy'n lleihau gwastraff yn sylweddol.

Mae astudiaethau peilot ym Mhrifysgol Abertawe wedi dangos canlyniadau trawiadol, gan ddangos cyfraddau adfer arian o dros 80% o swbstradau papur a mwy na 95% o blastigau.

O ymchwil labordy i effaith fasnachol

Gan gydnabod potensial masnachol y dechnoleg, cymerodd Dr Claypole ran yn rhaglen ICURe Innovate UK, gan ymgymryd â gweithgareddau helaeth i ddarganfod cwsmeriaid a dilysu'r farchnad. Arweiniodd hyn, yn y pen draw, at argymhelliad i wneud y mwyaf o'r effaith drwy sefydlu cwmni deillio. O ganlyniad uniongyrchol, ym mis Hydref 2024, sefydlwyd Ail Arian Ltd.

Mae enw'r cwmni, sy'n cyfieithu'n fras fel "ail arian" neu "arian adnewyddol" yn Gymraeg, yn adlewyrchu ei wreiddiau Cymreig a'i ymrwymiad i greu dyfodol mwy cynaliadwy i weithgynhyrchu electroneg.

Heddiw, mae Ail Arian yn gweithredu o Ganolfan Dechnoleg y Bae ym Mhort Talbot, lle mae'r tîm yn canolbwyntio ar ehangu cynhyrchu, ehangu ei bortffolio cynhyrchion, a chefnogi arferion gweithgynhyrchu mwy cynaliadwy ar draws y diwydiant.

Mae'r arloesedd hwn yn gam pwysig tuag at economi fwy cylchol, lle mae deunyddiau'n parhau i gael eu defnyddio am gyfnod hirach ac mae llai o adnoddau'n cael eu colli ar ddiwedd cylch bywyd cynnyrch.

Mae technoleg drawiadol y cwmni yn galluogi arian i gael ei ailddefnyddio yn hytrach na'i daflu; bellach, mae gan y broses y potensial i leihau allyriadau carbon cysylltiedig o hyd at 70-75%, tra'n helpu gweithgynhyrchwyr i leihau gwastraff a chadw adnoddau gwerthfawr.

Edrych i'r Dyfodol

Mae cynnydd Ail Arian eisoes wedi denu sylw cenedlaethol. Mae'r cwmni wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau mawr i fusnesau newydd, ac fe'i dewiswyd yn un o dri chwmni yn unig sy'n deillio o Brifysgol Abertawe i arddangos ei dechnoleg yn Uwchgynhadledd Fyd-eang y DU  ar Ymchwil a Datblygu a Buddsoddi mewn Gwyddoniaeth, yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain.

Mae ei lwyddiant yn dangos sut  gall ymchwil prifysgol symud y tu hwnt i'r labordy i fynd i'r afael â heriau yn y byd go iawn, creu buddion amgylcheddol, cefnogi twf economaidd, a helpu diwydiannau i symud tuag at ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio.

Wrth i'r galw am dechnolegau gwyrddach a gweithgynhyrchu mwy cyfrifol dyfu, mae Ail Arian yn dangos sut  gall ymchwil arloesol helpu i sicrhau bod y deunyddiau gwerthfawr a ddefnyddir heddiw yn parhau i bweru cynhyrchion y dyfodol.

I drafod potensial masnacheiddio eich datblygiad newydd, neu sut gallwn ni gefnogi eich taith entrepreneuraidd, cysylltwch â'n Tîm Eiddo Deallusol a Masnacheiddio yn innovations@abertawe.ac.uk.  

 

Rhagor o wybodaeth