Dewiswyd tri o chwmnïau deillio Prifysgol Abertawe i arddangos eu gwaith arloesol yn y digwyddiad UK Global R&D and Science Investment Summit yn Llundain eleni.
Yn yr uwchgynhadledd, daeth buddsoddwyr blaenllaw, llunwyr polisi a sefydliadau ymchwil byd-eang o'r radd flaenaf ynghyd i dynnu sylw at fentrau gwyddoniaeth a thechnoleg mwyaf addawol y DU, gan roi Prifysgol Abertawe'n gadarn ar y llwyfan arloesi cenedlaethol a byd-eang.
Mae'r cwmnïau deillio a ddewiswyd yn adlewyrchu cryfder portffolio ymchwil Abertawe ac yn dangos ei henw da am drosi rhagoriaeth ymchwil yn fentrau masnachol cyffrous, newydd sy'n cydweddu'n gryf â'r wyth sector twf a flaenoriaethir yn Strategaeth Ddiwydiannol y DU.
Y cwmnïau oedd:
- Ail Arian Ltd sy'n canolbwyntio ar ddatblygu technolegau glân a chynaliadwy, gan helpu gweithgynhyrchwyr i leihau CO2e yn sylweddol, lleihau gwastraff gweithgynhyrchu ac atal deunyddiau gwerth uchel rhag cael eu colli;
- Viamab Therapeutics Ltd sy'n arbenigo mewn datblygu cyffuriau gwrthgyrff cyfunedig (ACDs) i drin tiwmorau solet, gan ganolbwyntio i ddechrau ar ganserau'r ofarïau; a,
- CanSense Ltd sy'n datblygu'r genhedlaeth nesaf o dechnolegau diagnostig, gan gynnig ffyrdd cyflymach a mwy cywir o ganfod canser, drwy synhwyro uwch a phlatfformau sy'n cael eu llywio gan ddata.
Daw'r gydnabyddiaeth hon ar yr un pryd â Phrifysgol Abertawe'n cyrraedd y 4ydd safle yn y DU - a'r brig yng Nghymru - am greu cwmnïau deillio a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol, yn ôl Cofrestr Cwmnïau Deillio’r DU. Ychydig yn unig y tu ôl i Gaergrawnt, Rhydychen a Choleg y Brifysgol Llundain (UCL), cydnabyddir Abertawe yn eang am ysgogi arloesi ac entrepreneuriaeth.
Meddai Rhys Bowley, Pennaeth Eiddo Deallusol a Masnacheiddio ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'r ffaith bod tri o gwmnïau deillio Abertawe wedi cael eu dewis i gyflwyno yn Uwchgynhadledd Gobal R&D and Science Investment y Deyrnas Unedig yn ardystiad pwerus i ansawdd a pherthnasedd ein hecosystem arloesi.
"Sefydlwyd ein prifysgol i wasanaethu diwydiannau ffyniannus y rhanbarth ac felly mae menter ac entrepreneuriaeth bob amser wedi bod yn rhan o'r DNA yma.
“Rydyn ni'n ymrwymedig i barhau â'r daith honno, gan ddatblygu cwmnïau sy'n mynd i'r afael â heriau byd-eang mewn sectorau sy'n hollbwysig i ffyniant y Deyrnas Unedig yn y dyfodol."
Ychwanegodd fod y Brifysgol yn edrych ymlaen at weithio gyda buddsoddwyr a phartneriaid byd-eang i gyflymu twf ei mentrau potensial uchel.
Dysgwch ragor am gyfleoedd buddsoddi yng nghwmnïau deillio Prifysgol Abertawe a photensial masnachol ei phortffolio ymchwil drwy gysylltu â'r tîm Eiddo Deallusol a Masnacheiddio.