Yr Athro Paul Meredith

Athro, Physics

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
403
Pedwerydd Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy'n Athro Ffiseg Deunyddiau a Chadeirydd Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. Hefyd, mae gen i Gadair Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Queensland yn Brisbane. Mae fy niddordebau ymchwil ym maes deunyddiau datblygedig cynaliadwy ar gyfer eu cymhwyso i ynni solar, optoelectroneg a bioelectroneg. Cefais fy addysg ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Heriot-Watt ac roeddwn yn Gymrawd Ôl-ddoethurol yng Nghaergrawnt cyn ymuno â’r byd diwydiant fel uwch-wyddonydd gyda Proctor & Gamble. Rhwng 2001 a 2017 roeddwn yn academydd ym Mhrifysgol Queensland a bûm mewn sawl swydd yno gan gynnwys Cyfarwyddwr y Ganolfan Ffotoneg Organig ac Electroneg a Chyfarwyddwr UQ Solar. Roeddwn hefyd yn Gymrawd y Wobr Discovery Outstanding Research Award yr Australian Research Council a gwnes gyfraniad gweithredol yn natblygiad targed ynni adnewyddadwy Talaith Queensland o 50% erbyn 2030. Yn 2017 dychwelais i Abertawe i sefydlu ymchwil ym maes ffiseg deunyddiau datblygedig cynaliadwy ac mae hynny wedi arwain at sefydlu’r Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludyddion Integreiddiol (CISM) newydd rwyf bellach yn ei harwain. Bydd y fenter £30 miliwn hon yn creu lab ymchwil newydd o'r radd flaenaf ar gyfer gwyddoniaeth a pheirianneg lled-ddargludyddion i gefnogi'r diwydiant lled-ddargludyddion rhanbarthol ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn 2022. Rwyf wedi cyhoeddi> 240 o bapurau gyda dros 12,000 (mynegai H. 55) ac mae gennyf gryn ddiddordeb mawr mewn arloesi ar ôl sefydlu sawl cwmni newydd. 

Meysydd Arbenigedd

  • Gwyddoniaeth a thechnoleg ynni solar
  • Bioelectroneg
  • Lled-ddargludyddion organig a perovskite
  • Deunyddiau lled-ddargludyddion integreiddiol
  • Ffotoganfodyddion ac optoelectroneg
  • Ffiseg electro-optegol
  • Polisi ynni adnewyddadwy
  • Arferion arloesol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Optoelectroneg

Bioffiseg

Gwyddoniaeth a pheirianneg lled-ddargludyddion

Ffiseg deunyddiau

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau