Rydym yn datblygu adeiladau sy'n cynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni eu hunai

Specific active buildings classroom and office

Y Her

Mae'r byd yn wynebu her ynni: sut mae bodloni'r galw cynyddol am drydan a gwres mewn ffordd sy'n garbon isel, yn fforddiadwy ac yn ddibynadwy?

Mae adeiladau'n cyfrif am tua 40% o ddefnydd ynni'r DU a 40% o'n hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Er mwyn datrys yr argyfwng ynni a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae angen newid radical o ran dyluniad adeiladau.

Mae dur yn un deunydd sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth yn y byd adeiladu. Mae ffyniant cyfnewidiol diwydiant dur y DU wedi denu sylw eang yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Gallai'r broses o ddatblygu technolegau solar effeithlon, cost isel helpu i leihau allyriadau, lleihau costau ynni a darparu cyfleoedd busnes newydd i'r diwydiannau deunyddiau ac adeiladu.

Y Dull

Mae Prifysgol Abertawe a'i phartneriaid, gan gynnwys Tata Steel, wedi chwarae rôl hollbwysig dros yr 20 mlynedd diwethaf fel rhan o'r seilwaith ymchwil sy'n cefnogi'r diwydiant dur yn ne Cymru. Mae dur wrth wraidd prosiect Canolfan Arloesedd a Gwybodaeth SPECIFIC a arweinir gan Brifysgol Abertawe, sef arloeswyr Adeiladau Actif.

Mae ymchwilwyr ar y prosiect, gan gynnwys yr Athro Dave Worsley, yn gyfrifol am ystafell ddosbarth ynni gadarnhaol gyntaf y DU, sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau ei hynni solar ei hun. Mae'r Ystafell Ddosbarth Actif yn arddangos y gwaith sy'n cael ei wneud yn SPECIFIC ac fe'i defnyddiwyd i ddangos galluoedd ymchwil solar Prifysgol Abertawe, o ran trosglwyddo ymchwil o labordai i'r diwydiant adeiladu.

Yr Effaith

  • Adeiladwyd yr Ystafell Ddosbarth Actif yn 2016 a hon oedd ystafell ddosbarth ynni gadarnhaol gyntaf y DU. Yn 2018 adeiladwyd Swyddfa Actif dechnolegol, gan ddefnyddio technolegau sydd ond ar gael yn fasnachol.
  • Mae'r cyflenwad trydan ar gyfer yr adeilad yn cael ei gynhyrchu gan do dur gyda chelloedd solar integredig, a gyflenwir gan y cwmni a grewyd yn sgîl SPECIFIC, BIPVco. Mae wedi'i gysylltu â dau fatri, sy'n gallu storio digon o ynni i bweru'r adeilad am ddau ddiwrnod.
  • Mae'r adeilad hefyd yn defnyddio cladin dur trydyllog Tata Steel ar gyfer cynhyrchu ynni gwres solar, a haen llawr trydanol sydd wedi'i ddatblygu gan ymchwilwyr SPECIFIC.
  • Mae data a gasglwyd o'r ystafell ddosbarth wedi profi y gall yr adeilad gynhyrchu mwy o ynni nag y mae'n ei ddefnyddio, drwy ei thechnolegau cynhyrchu, storio, a rhyddhau newydd.
  • Mae'r cysyniad o adeiladau actif yn rhoi Abertawe ar flaen y gad o ran arloesi yn ne Cymru.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Logo Ynni Glân a fforddiadwy
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe