Adeiladau Gweithredol ar gampws Prifysgol Abertawe, sy'n cynhyrchu, storio a rhyddhau eu gwres a'u trydan eu hunain.

Adeiladau Gweithredol ar gampws Prifysgol Abertawe, sy'n cynhyrchu, storio a rhyddhau eu gwres a'u trydan eu hunain. 

Mae cartrefi ac adeiladau yn ne Cymru sy'n garbon isel ac sydd â chostau ynni rhatach gam yn nes diolch i grant gwerth £5 miliwn ar gyfer prosiect Cymreig.

Mae adeiladau - fel cartrefi a swyddfeydd - yn gyfrifol am 40% o holl allyriadau carbon y DU.

Bydd y prosiect, o'r enw Switch to Net Zero Buildings, yn galluogi adeiladau ar draws de Cymru i gynhyrchu, storio a rhyddhau eu gwres a'u trydan eu hunain. Yn hanfodol, byddai adeiladau'n cael eu cysylltu â'i gilydd mewn system ynni ranbarthol sy'n garbon isel ac yn rhoi mwy o reolaeth i ddefnyddwyr ynni.

Y syniad yw gweld 'adeiladau fel pwerdai', cysyniad dylunio arloesol a arloeswyd gan Brifysgol Abertawe ar gyfer cartrefi ac adeiladau annomestig. Dangoswyd eisoes bod yr egwyddor yn gweithio, er enghraifft yn yr Adeiladau Gweithredol ar gampws Prifysgol Abertawe.

Nod y prosiect newydd yw cyflymu'r gyfradd y caiff arloesiadau eu mabwysiadu, sy'n golygu bod y technolegau hyn yn dod yn fwy fforddiadwy ac yn cael eu rhoi ar waith yn ehangach. Bydd yr ecosystem arloesi hon hefyd yn creu cadwyni cyflenwi lleol cryf, gan hybu twf economaidd yn y rhanbarth. 

Mae'r prosiect yn gonsortiwm dan arweiniad Prifysgol Abertawe gyda Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, Llywodraeth Cymru, a Diwydiant Sero Net Cymru.

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe:

"Mae'r prosiect Switch to Net Zero Buildings yn adeiladu ar fwy na degawd o gydweithio. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn edrych ymlaen at gyflymu'r gwaith hwn gyda'n partneriaid yn y llywodraeth a byd diwydiant i helpu i ddarparu ynni gwyrddach a mwy diogel, biliau is, a rhoi diwedd ar dlodi tanwydd."

Meddai Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt:

“Mae'r prosiect cyffrous hwn yn ategu strategaeth Dadgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy (DARE) barhaus Cyngor Castell-nedd Port Talbot a hefyd ein gweledigaeth o gael ein hystyried yn lle deniadol i fyw, gweithio a chynnal busnes ynddo."

Mae'r cyllid gwerth £5 miliwn wedi'i ddyfarnu gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) yr UKRI, ar ffurf Cyfrif Cyflymu Effaith ar sail Lle.

Mae'r prosiect SWITCH to Net Zero Buildings yn un o ddeg prosiect i gael y dyfarniad hwn gan yr EPSRC, ac mae tri ohonynt yn cynnwys cydweithwyr o Gymru.

Meddai George Freeman, Gweinidog Gwyddoniaeth Llywodraeth y DU:

"Mae de Cymru yn ganolfan gynyddol ar gyfer sectorau'r dyfodol, gan chwarae rhan ganolog ar ein taith i adeiladau sero net a hyrwyddo economi hydrogen y DU a thrwy ei chwmnïau lled-ddargludyddion arloesol.

Bydd ein buddsoddiad gwerth mwy na £9 miliwn mewn prosiectau dan arweiniad prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn ategu hyfforddiant cynhwysfawr a miloedd o swyddi newydd ac yn gosod y sylfeini sy'n dod â buddsoddiad preifat pellach am flynyddoedd i ddod - gan dyfu economïau Cymru a'r DU ehangach."

Bydd cyfrif SWITCH to Net Zero Buildings yn rhan o SWITCH, Cyflymydd Sero Net Cymru. Mae SWITCH yn rhwydwaith cydweithredol eang ar draws y byd academaidd, y llywodraeth a byd diwydiant, sy'n dod at ei gilydd i gefnogi uchelgeisiau sero net y rhanbarth. Mae'r cyllid hwn yn dilyn cyhoeddiadau diweddar eraill yn rhwydwaith SWITCH, gan gynnwys penodi'r contractiwr Morgan Sindell i adeiladu SWITCH Harbourside a NOW Skills, sy'n creu meithrinwr sgiliau gwyrdd mewn diwydiannau sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu.

 

Rhannu'r stori