Morgludo awtonomaidd - chwalu'r rhwystrau cyfreithiol a rheoleiddiol

image of cargo ship

Yr Her

Rydym yn symud at fyd lle rydym yn derbyn trenau, tryciau a cheir heb yrwyr dynol. caiff rhai eu rheoli o bell gan reolwr mewn lleoliad canolog: bydd rhai yn mynd ymhellach a byddant yn hollol awtonomaidd. Mae'r un peth yn wir am longau llwythi lle y mae pethau'n symud at gael gwared â chriwiau dynol ar y llong. Gelwir llongau o'r math yn Llongau Arwyneb Awtonomaidd Morwrol (MASS yn gryno). Mae hyn, yn rhannol, am resymau diogelwch, am fod bywyd llongwr bob amser yn beryglus ond, hefyd, er mwyn cynyddu effeithlonrwydd: mae llawer mwy o le ar gael ar gyfer cludo cargo.


Yn anffodus, mae llawer iawn o'r cyfreithiau, cenedlaethol a rhyngwladol, sy'n ymwneud â morgludiant ar hyn o bryd yn cymryd yn ganiataol bod gan long griw arni. Mae'r cyfreithiau hyn yn anodd ac, weithiau, yn amhosibl eu cymhwyso yn achos MASS. Prif amcan yr astudiaeth hon yw mynd i'r afael a'r broblem hon. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni amlygu heriau rheoleiddiol a chyfreithiol y mae angen mynd i'r afael â nhw er mwyn i MASS allu gweithredu yn unol â'r gyfraith. Yn ail, fel mater brys, mae'n rhaid diweddaru cyfreithiau presennol i sicrhau eu bod yn addas at y pwrpas o ran MASS.

Y Dull

Mae ein hymchwil ein ni i'r pwnc hwn wedi cael ei chynnal gan dri athro, pob un yn aelod o'n Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol hynod arbenigol, sef yr Athro Leloudas, yr Athro Soyer a'r Athro Tettenborn, ond mae'r ymchwil hon yn amlddisgyblaethol. Rydym wedi cydweithio â nifer o randdeiliaid gan gynnwys: gwyddonwyr cyfrifiadurol ac arbenigwyr systemau diogel ym Mhrifysgol Efrog yn ogystal â rheoleiddwyr a seicolegwyr sy'n gweithio ar ryngweithiadau rhwng pobl a chyfrifiaduron.
Ar adegau, mae ein hymchwiliadau wedi cael eu cyfeirio at gynyddu dealltwriaeth pobl o sut mae systemau awtonomaidd yn gweithio yn ymarferol a pha anawsterau all godi wrth drosglwyddo rheolaeth o bobl i beiriannau. Yn sgîl hyn, yna ymchwiliwyd i ba raddau y mae angen i reolau cyfreithiol a rheoliadau diogelwch gael eu haddasu i sicrhau bod llongau o'r math yn gallu cael eu defnyddio'n ddiogel yn nyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig.

Yr Effaith

Defnyddiwyd yr ymchwil gan:
Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau sef un o'r cyrff llywodraethol â chyfrifoldeb am ddatblygu rheoleiddio priodol yn y maes hwn ar gyfer y DU
Rhaglen Ryngwladol Aswirio Awtonomiaeth (y derbyniwyd grant ymchwil sylweddol ganddi bellach) i ddarparu prosiect arddangos sy'n dangos yr heriau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae awtonomiaeth ym maes morgludiant yn eu cyflwyno.
Mae'r astudiaeth hefyd wedi cael ei chyhoeddi fel rhan o “Artificial Intelligence and Autonomous Shipping" a gyhoeddwyd gan Hart Publishing a hwn yw'r llyfr cyntaf i drafod y pwnc yn llawn yn y Deyrnas Unedig.

Yn fwy cyffredinol, mae’r ymchwil wedi'i gwneud yn sylweddol haws i gwmnïau morgludiant yn y DU ac yn fyd-eang gael mynediad at y gwelliannau diogelwch a’r arbedion effeithlonrwydd sydd ynghlwm wrth ddefnyddio MASS.

Text Reads Nodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe