Atriwm mewnol adeilad ILS 2
Professor Deya Gonzalez

Yr Athro Deya Gonzalez

Athro, Biomedical Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295384

Cyfeiriad ebost

210
Ail lawr
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 2
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Deya yn Athro Meddygaeth Foleciwlaidd, ac yn un o sylfaenwyr y Grŵp Bioleg Atgenhedlu ac Oncoleg Gynaecolegol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Mae’n ystyried ei hun yn wyddonydd trawsfudol ym meysydd anffrwythlondeb a chanser menywod, a’r prif nod yw datblygu platfformau swyddogaethol a chyflwyno therapïau wedi’u targedu i’r clinig er budd cleifion. Mae ei phrosiectau yn cynnwys cydweithredu’n agos â’r GIG a’r sector preifat ym meysydd modelau 3D amlgellog clefydau sy’n deillio o gleifion a meddyginiaethau trachywir yn cynnwys Cyfieuau ac Ecsosomau Cyffuriau Gwrthgyrff. Mae’n Brif Ymchwilydd ar y cyd ar y prosiect Clwstwr Therapiwteg ADC ac Epigenomaidd (CEAT) (£2.6 miliwn), lle mae’n arwain y rhaglen ADC. 

Mae Deya yn Gadeirydd Moeseg a Llywodraethu Ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe hefyd. Mae’n gwasanaethu fel aelod golygyddol o nifer o gyfnodolion ym meysydd meddygaeth ac oncoleg atgenhedlol. Mae Deya yn Eiriolwr anghlinigol Rhanbarthol y De-orllewin i Ganolfan Ymchwil Canser Cymru.

Meysydd Arbenigedd

  • Canserau Gynaecolegol
  • Modelau 3D sy’n deillio o gleifion
  • meinwe swyddogaethol a biofarcwyr y gwaed
  • therapïau uwch wedi’u targedu
  • anffrwythlondeb menywod
  • micro-amgylchedd tiwmorau
  • canfod cyffuriau
  • llid

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Deya yn darlithio ar raglenni Gradd BSc mewn Geneteg, Biocemeg a ‘r Gwyddorau Meddygol Cymhwysol ac ar y rhaglen MSc mewn Nanofeddygaeth. Mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac mae’n dysgu myfyrwyr MSCi yn rheolaidd.  

Ymchwil