Rydym yn un o Ysgolion Meddygaeth orau yn y DU, wedi ein lleoli mewn rhan hyfryd o Dde Orllewin Cymru. Rydym yn addysgu a hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr meddygol, gwyddonwyr bywyd a gweithwyr proffesiynol iechyd.  Ein Cenhadaeth yw gwella iechyd, cyfoeth a lles pobl Cymru a'r byd.

Rydym yn cydweithio â’r GIG, busnesau a’r trydydd sector mewn ysbryd arloesol agored ac rydym wedi sefydlu ein hunain fel lleoliad sydd gyda'r gorau yn y byd o safbwynt dysgu, gwaith ymchwil, arloesi, cydweithio ac arwain.

Mae ein cymuned o fyfyrwyr, ymchwilwyr a phartneriaid yn tynnu ar arbenigedd ein hymchwilwyr a'n haddysgwyr rhyngwladol ac yn elwa ar hynny, gan adeiladu ar ein hymchwil ragorol sydd ymysg y 5 uchaf yn y DU (yn ôl REF 2021).

5ed yn y Du Meddygaeth