"O bob her daw cyfle. Yma ym Mhrifysgol Abertawe rydym wedi ymateb i bob her y mae Covid-19 wedi'i thaflu atom. Croeso i drydydd rhifyn cylchgrawn Pulse." Yr Athro Keith Lloyd
Ar ôl y pandemig, mae'r drefn draddodiadol 9-5 yn ymddangos fel rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol. Yn fwy nag erioed o'r blaen, mae cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn uchel ar restr blaenoriaethau pawb. Rydym yn cydnabod bod gweithio ystwyth a dysgu cyfunol yn allweddol i gyflawni hyn. Nid yn unig y mae hyblygrwydd yn arwain at well brofiadau dysgu ac addysgu i fyfyrwyr ac athrawon, mae ganddo hefyd amrywiaeth o fanteision eraill, megis arbedion ariannol a gwell effaith amgylcheddol. Felly sut mae dod o hyd i'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith?
Mae addysgu ar y campws yn hanfodol ar gyfer dysgu ymarferol a dysgu sy'n seiliedig ar sgiliau, ond beth am ddarlithoedd, adolygu a gwaith grŵp?
Dewch i wybod beth sy'n ddisgwyliedig gennych fel y gallwch gynllunio sut rydych chi am ddefnyddio gweddill eich amser. Mae codio lliw y mathau gwahanol o weithgareddau yn eich calendr nid yn unig yn sicrhau eich bod yn gwybod ble rydych chi i fod a phryd, mae hefyd yn helpu i ddelweddu eich amser rhydd.
Mae paratoi â'r offer, y feddalwedd a'r gofod gwaith cywir yn hanfodol er mwyn cael y gorau o'ch astudiaethau
Does dim byd gwaeth na gorfod clirio eich nodiadau ganol y sesiwn er mwyn i chi allu defnyddio'r bwrdd i gael cinio. Bydd buddsoddi (amser ac ymdrech - nid yn ariannol yn unig) wrth baratoi gweithfan sy'n addas i'r diben yn rhoi'r lle dynodedig sydd ei angen arnoch i fynd i mewn i 'ddull astudio' - a lle rhydd ar gyfer eich amser rhydd.
P'un a ydych chi'n eistedd gartref yn gwrando ar ddarlith neu'n gweithio ochr yn ochr â'ch cyfoedion mewn labordy neu ystafell efelychu, byddwch yn bresennol. Mae gan ein staff addysgu gyfoeth o wybodaeth a phrofiad i'w rannu â chi - gofyn ac ateb cwestiynau yw un o'r ffyrdd gorau o gyfuno dysgu ac ehangu eich sylfaen wybodaeth.
Mae pawb yn gwybod am y dyddiad cau mawr ym mis Ionawr ar gyfer cyflwyno ceisiadau ond mae llawer o ddyddiadau allweddol eraill i'w cofio...
Mae UCAS yn agor ar ddechrau mis Medi bob blwyddyn fel y gallwch ddechrau (a chyflwyno!) unrhyw amser pan fynnwch chi o hynny ymlaen.
Dyddiad cau UCAS ar gyfer Meddygaeth (ynghyd â holl gyrsiau Rhydychen a Chaergrawnt) yw 15 Hydref bob blwyddyn... ni waeth pa ddiwrnod o'r wythnos fydd ef!
Bydd dyddiad cau UCAS ar gyfer pob pwnc arall ym mis Ionawr ac mae'r dyddiad hwn wedi amrywio ychydig yn ystod y blynyddoedd diwethaf felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio ymlaen llaw.
Mae UCAS Extra yn agor ddiwedd mis Chwefror a gallwch ddechrau gwneud newidiadau eto o hyn ymlaen hyd at Glirio.
Bydd dyddiad cau eich penderfyniad yn dibynnu ar pryd y byddwch yn derbyn eich cynnig olaf... os byddwch yn derbyn penderfyniadau ar gyfer eich holl ddewisiadau cwrs erbyn diwedd mis Mawrth, bydd angen i chi gadarnhau eich dewisiadau Cadarn ac Yswiriant erbyn dechrau mis Mai.
Os nad ydych yn dal cynnig rydych yn fodlon arno erbyn mis Gorffennaf, gallwch gofrestru ymlaen llaw ar gyfer Clirio. Er na ellir cadarnhau cynigion yn aml tan ddiwrnod y canlyniadau, mae'n werth ymchwilio'n gynnar a chysylltu â thiwtoriaid derbyn i weld a yw lleoedd yn debygol o fod ar gael.
Gallwch gyflwyno cais am 5 cwrs ar unrhyw un adeg felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich opsiynau ar agor drwy wneud y gorau o'r pum lle ar eich ffurflen gais.
Os na fyddwch yn defnyddio'r 5 ar unwaith, gallwch ychwanegu dewisiadau newydd at eich cais hyd at y dyddiad cau ym mis Ionawr – hyd yn oed ar ôl i chi gyflwyno.
Gallwch hefyd ychwanegu dewisiadau newydd drwy UCAS Extra ar sail un-allan un-i-mewn, felly os nad ydych yn dal y cynnig rydych ei eisiau erbyn mis Chwefror, gallwch gyflwyno cais am rywbeth/rywle arall ar UCAS tan ddechrau mis Gorffennaf.
Fel yr esbonia James Kerr, Rheolwr Derbyniadau Clinigol:
"Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ymgeiswyr Meddygaeth, sy'n gallu dewis pedwar cwrs Meddygaeth yn unig. Fe'i hadnabyddir yn gyffredin yn '5ed Dewis', mae mwy a mwy o ymgeiswyr yn cyflwyno cais am gwrs amgen fel cwrs wrth gefn rhag ofn y byddant yn colli allan ar Feddygaeth ar adeg y cyfweliad.
Bydd y rhan fwyaf o gynigion yn Amodol – sy'n golygu bod angen i chi gwblhau cymwysterau neu gamau gweithredu cyn bod eich lle 100% yn ddiogel.
Caiff amodau eu hamlinellu yn eich cynnig ar UCAS ond byddwn hefyd yn anfon e-byst atoch gydag arweiniad ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf.
Ar gyfer cyrsiau gofal iechyd, bydd hyn yn cynnwys cael Gwiriad DBS ac Asesiad Iechyd Galwedigaethol ac ni fyddwch yn gallu cymryd rhan mewn unrhyw elfennau ymarferol o'ch cyrsiau nes bod y rhain wedi'u cwblhau – ar y gorau. Y sefyllfa waethaf yw y byddwch yn fforffedu eich cynnig!
Unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig, byddwch yn gallu cyflwyno cais am lety a chyllid a gorau po gyntaf y byddwch yn gwneud y ddau beth hyn.
Mae ein timau ymroddedig wrth law i'ch cefnogi ar hyd y ffordd
Mae gennym le i chi yn Abertawe, hyd yn oed os nad yw pethau'n mynd yn ôl y cynllun ar ddiwrnod y canlyniadau. Gyda dros 300 o gyrsiau, byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i'r un iawn i chi.
Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau ar ein Llinell Gymorth Clirio bwrpasol: 0808 175 3071
“Mae’r cyfnod rhwng 11 a 24 oed yn gyfnod o newid anferth a gall teimladau ac emosiynau eithaf cynhyrfus sy’n rhan o’r profiad dynol arferol gyd-fynd â’r newid hwnnw.
Un o’r adegau mwyaf cynhyrfus yw amser canlyniadau arholiadau, ac mae hynny’n gallu gwneud i chi deimlo’n bryderus iawn. Mae gorbryder yn gallu effeithio arnoch chi mewn pob math o ffordd. Mae rhai pobl yn eithaf ymwybodol eu bod yn teimlo’n llawn pryder - er enghraifft, os bydd eu calon yn curo ychydig yn gyflymach - ond mae gorbryder hefyd yn gallu teimlo fel cwlwm yn eich stumog neu lwmp yn eich gwddf ac mae’r teimladau hynny bron yn ymateb dynol i’r hyn rydych chi’n ei brofi’n fygythiad, sy’n mynd yn ôl i syniad eithaf cyntefig o ‘ymladd neu ffoi’.
Yn aml, bydd y teimladau hyn yn diflannu ond os byddant yn eich cadw ar ddihun gyda’r nos neu os ydych chi’n pryderu neu mae’n effeithio ar eich awydd i weld eich ffrindiau - dyna pryd mae’r pryderu’n mynd yn ormod. Un o’r pethau y gallwch chi eu gwneud yw mynd â’ch meddwl i rywle arall - ceisiwch anadlu i mewn ac allan yn araf, creu rhestr o ganeuon neu wneud rhywbeth corfforol fel mynd am dro, siarad â ffrindiau neu weithgareddau meddylgar fel lliwio.
Y peth pwysig i’w gofio yw na fydd hyn yn para am byth. Os ydych chi’n poeni am eich canlyniadau, ffoniwch ni gan fod gennym bobl yma i’ch helpu chi. Gall siarad am eich opsiynau eich helpu i glirio eich meddwl.” - Yr Athro Ann John
Yr Athro Ann John, Ymchwil sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl pobl ifanc
"Ar y dechrau, roeddwn i'n bryderus bod fy nghwrs yn troi at fformat cyfunol gan nad oeddwn i'n siŵr sut byddai'n effeithio ar fy astudiaethau. Fodd bynnag, cyn bo hir cefais fanteision i'r math hwn o ddysgu ac rwy'n mwynhau cael sesiynau wyneb yn wyneb sy'n cael eu hategu gan y fformat rhithwir y mae darlithoedd eraill yn ei gymryd.
"Gall sesiynau ar-lein ei gwneud hi’n haws cynllunio digwyddiadau eraill yn fy niwrnod, lle byddai'n rhaid i mi ymrwymo fel arall i fod ar y campws am gyfnodau hir rhwng darlithoedd wyneb yn wyneb. Mae llawer o ddarlithoedd rhithwir yn cael eu recordio, sy'n golygu bod cynnwys a addysgir yn fwy hygyrch ac rwy'n gallu ail-wylio'r fideos hyn yn hwylus nes ymlaen er mwyn fy helpu i adolygu ar gyfer arholiadau. Mae addysgu ar-lein yn cynnig safbwynt gwahanol i addysg, sy'n gallu teimlo'n rhyfedd ar adegau, ond wrth baru hynny ag addysgu wyneb yn wyneb mae'n gwneud profiad dysgu pwerus."
"Pan wnes i raddio gyda fy ngradd israddedig, doedd gen i ddim syniad beth oedd y dyfodol i mi yn academaidd. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ac rwyf wedi cwblhau fy ngradd Meistr ac wedi derbyn cynnig i astudio PhD ym Mhrifysgol Abertawe o dan ysgoloriaeth ymchwil. Dyfarnodd yr ESRC yng Nghymru ddim ond dau fyfyriwr seicoleg, ac yr oeddwn yn ddigon ffodus i fod yn un ohonynt. Rwy'n llawn cyffro i barhau â'm pennod addysgol nesaf lle rwyf ar y llwybr i ddod yn Dr Randall"
"Dewisais astudio yn Abertawe i barhau â'm trefn hyfforddi yng Nghymru - mae'n amgylchedd cadarnhaol i fod ynddo, ac mae'n cefnogi fy anghenion chwaraeon ac academaidd. Rwy'n cynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol mewn athletau ac wedi cael fy enwebu i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad 2022. Rwy'n defnyddio'r tymor i ffwrdd yn y gaeaf i flaenoriaethu fy astudiaeth, felly pan fydd tymor y gystadleuaeth yn dechrau rwyf ar y blaen gyda’m gwaith"
"Ces i sioc fawr ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch pan ddaeth i'r amlwg nad oedd fy arholiadau wedi mynd cystal ag yr oeddwn i wedi gobeithio. Roedd popeth yn teimlo fel anhrefn llwyr nes i mi dderbyn galwad ffôn gan Brifysgol Abertawe, a siaradodd â mi drwy fy opsiynau. Derbyniais le ar gwrs Llwybr at Feddygaeth gan mai astudio Meddygaeth oedd fy nod yn y pen draw. Rwy'n gallu dweud heb os nac oni bai mai dyma'r penderfyniad gorau rwy' erioed wedi'i wneud"
"Doeddwn i ddim wedi astudio gwyddoniaeth ers astudio ar gyfer fy arholiadau TGAU. Rwy' mor ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am roi ffydd ynof a rhoi'r cyfle i mi ddilyn fy mreuddwydion o fod yn feddyg. Mae'r holl staff yn anhygoel, yn gefnogol ac yn ysbrydoledig ac wedi creu blwyddyn sylfaen anhygoel a oedd yn cwmpasu popeth yr oedd ei angen arnaf ar gyfer y BSc."
"Cymerais ran mewn interniaeth chwe wythnos yn yr haf yng Ngholeg Meddygaeth Baylor yn Nhecsas. Roeddwn i wir yn disgwyl nôl paneidiau o goffi neu gysgodi pobl heb gyfranogi go iawn. Ond roedd y realiti'n hollol wahanol: Ces i fy nhrin yn gyfartal a'm hannog i fynegi barn am unrhyw syniadau oedd gen i. Mae'r profiad wedi fy ngwneud yn llawer mwy hyderus wrth siarad ag eraill a chyflwyno fy syniadau."
"Gweld plant ifanc yn marw o dwymyn uchel a menywod yn marw yn ystod y cyfnod esgor oedd profiadau mwyaf trawmatig fy mhlentyndod. Roeddwn i'n teimlo bod yn rhaid i mi wneud rhywbeth am y peth, ni waeth beth a gymerodd.
"Gan fy mod wedi cael fy magu mewn cymuned lle nad oedd merched yn cael eu hanfon i'r ysgol yn gyffredinol, roedd yn rhaid i mi herio'r status quo i gredu y gallwn astudio fferylliaeth ac un diwrnod helpu fy nghymuned fy hun a chymunedau anghysbell eraill. Rwy'n edrych ymlaen at gyflawni prosiectau a mentrau strategol hirdymor yn Nigeria sy'n hyrwyddo gofal iechyd ac addysg gynhwysol sydd o ansawdd da"
"Mae seicoleg wedi newid fy meddwl ac wedi rhoi dealltwriaeth fwy dwys a manwl gywir i mi o'm pobl, pethau ac amgylcheddau. Mae astudio ym Mhrifysgol Abertawe wedi rhoi amgylchedd dysgu amlddiwylliannol i mi, sy'n fy ngalluogi i astudio seicoleg o safbwynt diwylliannau eraill.
"Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol yn ystod eu hastudiaethau yn y DU. Er enghraifft, cymorth seicolegol, cymorth ariannol ar gyfer covid-19, a llawer mwy. Mae'r ddinas yn hardd; mae'r bobl leol yn gyfeillgar; mae gan y brifysgol awyrgylch academaidd dwys ac mae'n cynnig ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth. Mae'n gyfeillgar iawn tuag at fyfyrwyr rhyngwladol Tsieineaidd yma ac rwy'n argymell i'm ffrindiau gartref i ymuno â'r brifysgol agored a chynhwysol hon"
"Yn ystod fy astudiaethau, cymerais ran mewn interniaeth â thâl drwy raglen SPIN y Brifysgol. Fel rhan o hyn, datblygais a chyflwynais ddigwyddiad gyrfaoedd i helpu myfyrwyr eraill i archwilio cyfleoedd tebyg a'u cefnogi i ddechrau meddwl am ennill profiad, cyflwyno cais am waith gwirfoddol neu waith â chyflog, a hyd yn oed sut i ddechrau eu busnes neu eu menter gymdeithasol eu hunain. Mae'r profiad wedi fy helpu i adeiladu fy rhwydwaith fy hun yn barod ar gyfer pan fydda i'n graddio."
"Gwnes i gwblhau fy ngradd BSc mewn Biocemeg yn Abertawe yn 2017, lle ces i fy nghyflwyno i fyd imiwnoleg. Arhosais i ymgymryd â'm PhD, gan ymchwilio i'r newidiadau y mae'r system imiwnedd yn eu profi yn ystod beichiogrwydd. O ganlyniad i'r pandemig, mae fy ymchwil wedi tyfu i gwmpasu COVID-19 a beichiogrwydd, lipidomeg, a gordewdra fel rhan o brosiect ymchwil cydweithredol gyda Phrifysgol Aberdeen"
Archwilio Problemau Byd-Eang
Rydym yn darlledu cyfres o bodlediadau a elwir yn Archwilio Problemau Byd-eang, lle mae academyddion o bob rhan o'r Brifysgol yn trafod sut bydd eu hymchwil arloesol yn helpu i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau byd-eang.
Ymysg y pynciau cyntaf mae Arloesedd ym maes Iechyd, y Newid yn yr Hinsawdd, Ynni Gwyrdd a Thechnolegau digidol sy'n canolbwyntio ar bobl. Daeth ein cyfraniad i hyn oddi wrth Dr Amira Guirguis, sydd wedi ymchwilio i'r heriau sy'n deillio o Sylweddau Seicoweithredol Newydd a sut y gallwn eu canfod. Mae'r ail bennod yn edrych ar waith yr Athro Paul Dyson, a fu'n siarad am ei waith yn addasu genynnau bacteria er mwyn gwella canser o bosibl.
Ewch i dudalen ein podlediad a thanysgrifiwch i'r gyfres. Gobeithio y byddwch yn ei fwynhau!