Myfyriwr meddygol o Wcrain yn treulio semester yn Abertawe

Mariia Hryhorian yn y labordai yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, lle mae ar hyn o bryd yn treulio semester fel un o'r myfyrwyr cyntaf i elwa ar bartneriaeth Abertawe â'i phrifysgol gartref yn yr Wcrain

Mae myfyriwr meddygol o'r Wcrain sy'n treulio semester yn Abertawe fel rhan o bartneriaeth newydd gyda'i phrifysgol gartref wedi dweud iddi syrthio mewn cariad â'r wlad hon o'i diwrnod cyntaf a diolch i'r ddwy brifysgol am wneud yr ymweliad yn bosibl.

Mae Mariia Hryhorian o Mykolaiv, dinas borthladd gydag oddeutu 470,000 o bobl yn ne Wcráin sydd wedi bod dan gyrch mynych ers i luoedd Rwsia ymosod ar y wlad ym mis Chwefror 2022.

Prifysgol Genedlaethol Petro Mohyla'r Môr Du (PMBSNU) ym Mykolaiv yw ei phrifysgol yn ei gwlad, a lofnododd gytundeb partneriaeth â Phrifysgol Abertawe'n ddiweddar. Bydd y cytundeb yn arwain at ymchwil ar y cyd, yn ogystal â chyfleoedd i staff a myfyrwyr o PMBSNU i dreulio amser yn Abertawe. Mae Mariia ymysg y grŵp cyntaf o fyfyrwyr i elwa o'r bartneriaeth newydd.

Mae Mariia'n astudio meddygaeth yn yr Wcráin, gan gynnwys gynaecoleg, llawdriniaeth, pediatreg a chlefydau heintus. Yn ystod ei hamser ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n dilyn y cyrsiau canlynol yn yr Ysgol Feddygaeth: ffarmacoleg; ffarmacogenomeg, genynnau a chyffuriau; a chyfathrebiadau ar gyfer gwyddonwyr meddygol.

Ar hyn o bryd, mae ar ei chweched blwyddyn o astudiaethau, ac mae ganddi ddiddordeb penodol mewn meddygaeth atgenhedlu ac mae'n gobeithio bod yn gynaecolegydd, gan arbenigo mewn IVF, y mae hi'n ei ddisgrifio fel "dyfodol meddygaeth".

Pan ofynnwyd iddi am ei hargraffiadau ers dechrau ar ei hastudiaethau yn Abertawe, meddai Mariia Hryhorian:

"Cefais fy synnu at ba mor fawr oedd y Brifysgol a pha mor gyfeillgar oedd y tîm. Rwy'n hoffi'r system addysg ym Mhrifysgol Abertawe. Rwy'n hoffi'r ffaith bod gan y Brifysgol gyfarpar modern - rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ar gyfer gwaith meddygon y dyfodol.

Rwyf hefyd yn mwynhau bod popeth yn cael ei wneud er hwylustod y myfyriwr, sdim ots ble rydych chi. Cefais fy synnu ynghylch y berthynas rhwng yr athrawon a'r myfyrwyr. Maen nhw fel un tîm mawr. Gall myfyrwyr ofyn am gymorth a bydd y Brifysgol yn helpu. Rwyf hefyd yn hoffi sut mae clybiau cymdeithasol a theithiau o'r Brifysgol yn cael eu trefnu. Byddaf yn dweud wrth fy holl ffrindiau ac yn eu cynghori i ddod i astudio yma".

Llofnodwyd y bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Abertawe a PMBSNU gan benaethiaid y ddwy brifysgol mewn seremoni ar y cyd a gynhaliwyd yn Abertawe ac ym Mykolaiv. Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o sut mae Prifysgol Abertawe, yng ngeiriau'r Is-ganghellor yr Athro Paul Boyle, “yn sefyll gyda phobl Wcráin i amddiffyn eu sofraniaeth, eu hannibyniaeth a'u rhyddid democrataidd.”

Gan ddisgrifio'r bartneriaeth newydd fel rhywbeth "pwysig iawn”, meddai Mariia:

"Mae'n anrhydedd fawr cael cyfnewid profiad o ran gwaith ac astudio. Hoffwn ddiolch i fy mhrifysgol PMBSNU am y cyfle hwn. Rwyf hefyd am ddiolch i'r tîm ym Mhrifysgol Abertawe am groeso mor gynnes. Rwyf wrth fy modd bod Prifysgol Abertawe'n cefnogi Wcráin ar adeg mor anodd i ni i gyd.

Dywedodd Mariia hefyd am y ffyrdd y mae ei phrofiad yn Abertawe – ei hymweliad cyntaf â'r DU – o fudd iddi:

"Mae treulio amser dramor fel rhan o raglen cyfnewid myfyrwyr yn brofiad gwobrwyol dros ben sy'n rhoi dewrder a hunanhyder i mi.

Dyma fy nhro cyntaf yn ymweld â Phrydain a Chymru, ond gwnes i gwympo mewn cariad â'r wlad hon o'r diwrnod cyntaf. Mae'r bobl mor garedig a chyfeillgar. Mae natur hyfryd ym mhob rhan o Gymru pan fyddwch am deithio i ddysgu am ei diwylliant. Rwy'n hoffi'r ffaith fy mod yn byw ger y môr.

Gwnes i gyfarfod â meddygon hyfryd a bellach mae gen i ffrindiau o rannau gwahanol y byd. Dechreuais hefyd ysgrifennu erthyglau meddygol gyda meddygon o Brifysgol Abertawe.

Rwy'n mwynhau pob diwrnod yma. Mae'n anrhydedd cael y cyfle i fyw, astudio a datblygu yma yn Abertawe".

Ychwanegodd yr Athro Lisa Wallace o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:

"Mae'n anrhydedd cael ein gefeillio â PMBSNU ac mae'n bleser cael croesawu Mariia a'i chyd-fyfyrwyr o Wcráin. Maen nhw'n llysgenhadon arbennig ar gyfer eu gwlad a'r Brifysgol.

Mae cydweithwyr a myfyrwyr o Wcráin wedi dangos gwytnwch anhygoel ac mae Prifysgol Abertawe'n falch o gael chwarae rhan fach i'w cefnogi nhw.Edrychwn ymlaen at gydweithio â PMBSNU o ran symudedd myfyrwyr ac ymchwil academaidd ar y cyd, mewn partneriaeth sy'n goroesi y tu hwnt i'r rhyfel.”

Rhannu'r stori