Ein nod yw cael effaith gadarnhaol ar fywydau yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang trwy ymchwil ac arloesi blaengar, cydweithredol.
Fel y cydnabyddir gan berfformiad cryf iawn yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF2021), mae gennym enw da ym maes ymchwil a arweinir gan ymchwilwyr o safon fyd-eang sy’n arwain at welliannau iechyd i gleifion, i ddiwydiant a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Mae ein hymchwil yn ymestyn o ymchwil awyr las i fecanweithiau biolegol sylfaenol i wyddoniaeth fiofeddygol, seicoleg drwodd i nanotechnoleg, astudiaethau delweddu a throsiadol yn cynnwys cleifion, datblygu gwasanaethau'r GIG a chydweithio diwydiannol. Mae ein llwyddiant wedi’i danategu gan ein cyfleusterau ymchwil heb eu hail, gydag adeiladau modern o’r radd flaenaf a’r offerwaith diweddaraf.
Cynhelir ymchwil ar y cyd trwy bedwar Sefydliad Ymchwil gyda themâu trawsbynciol sefydledig sy'n sail i'n diwylliant ymchwil rhyngddisgyblaethol bywiog.