Mae’r Sefydliad Ymchwil Diagnosteg a Thechnolegau Meddygol Uwch (ADMT) yn hyrwyddo ystod o ymchwil gofal iechyd ar draws y Brifysgol, y GIG a phartneriaid diwydiant, i chwalu ‘seilos’ a hybu’r diwylliant ymchwil ehangach.

Dan arweiniad yr Athro Jeremy Tree a Dr Jason Webber, nod Sefydliad Ymchwil ADMT yw gwella canfod cynnar, diagnosis a gofal iechyd trwy feithrin cydweithrediadau rhwng bioleg, technoleg, gwyddor ymddygiad a phrofiad bywyd claf.

Cleifion sydd ar flaen a chanol yr ymchwil hon - trwy feithrin cydweithrediadau trawsddisgyblaethol ein nod yw gwella bywydau cleifion. Gallai hyn fod drwy ddatblygu biofarcwyr newydd, lleihau’r amser a dreulir mewn ysbytai, neu wneud dyfeisiau’n fwy cyfforddus i’r claf/defnyddiwr terfynol (e.e. nyrs). Mae ein hymchwil yn cyd-fynd yn agos â diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Technoleg Iechyd.

Gwella diagnosis a gofal iechyd trwy feithrin cydweithrediadau

Gwella canfod a diagnosis yn gynnar

Datblygiadau arloesol biofarcwyr, proffilio newid gwybyddol trwy asesiadau uwch.

Celloedd gwaed coch

Gwella ymyriadau

Meithrin cyfranogiad cleifion cydweithredol arloesol i alluogi atebion newydd

claf yn cael ei hasesu

Gwella cymorth i cleifion

Mewnbwn parhaus gan ddefnyddwyr gwasanaeth i wella gweithrediad.

Myfyrwyr nyrsio gyda claf
Aelodau'r Grŵp Llywio

Dr Alex Jones, Cadair Bersonol, Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol Abertawe

Yr Athro Dean Harris, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a'r Rhefr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dr Emma Rees, Athro Cyswllt, Gwyddor Gofal Iechyd, Prifysgol Abertawe

Dr Owain Howell, Athro Cyswllt, Gwyddorau Biofeddygol, Prifysgol Abertawe

Dr Zoe Fisher, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dr Natalie De Mello, Uwch Ddarlithydd, Gwyddorau Biofeddygol, Prifysgol Abertawe

Dr Rachael Hunter, Uwch Ddarlithydd a Seicolegydd Clinigol, Seicoleg, Prifysgol Abertawe

Dr Jonathan Howard, Gwyddonydd Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dr Alex Jones, Senior lecturer, Psychology, Swansea University

Cymryd Rhan

Rydym yn croesawu unrhyw un sy’n rhannu ein gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd i ymuno â ni i hybu ein gweithgarwch cydweithio, gartref a thramor.

Yn benodol, rydym yn bwriadu parhau i gryfhau ein cysylltiadau â’r GIG, diwydiant a phartneriaid eraill ledled y byd.

Cysylltwch â ni