Trosolwg
Mae gan yr Athro Andrea Tales Gadair Bersonol mewn Ymchwil Niwroseicoleg a Dementia ac mae'n Gymrawd Cymdeithas Seicolegol Prydain. Andrea yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Heneiddio Arloesol (CIA), Cyfarwyddwr Sefydliad Awen, a Chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR). Mae Andrea wedi cyhoeddi’n helaeth mewn Cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid, yn rhedeg rhwydwaith ymchwil helaeth sy’n gysylltiedig â heneiddio a dementia ac wedi goruchwylio nifer o fyfyrwyr PhD yn llwyddiannus. Mae hi’n aelod o Fwrdd Cynghori Grant Biofeddygol Cymdeithas Alzheimer ac mae hi ar Fwrdd Golygydd Cyswllt y Journal of Alzheimer’s Disease.