Peiriant gamblo

Mae Prifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Anglia Ruskin, wedi sefydlu'r ganolfan gyntaf yn y byd sy'n ymroddedig i ymchwil ryngddisgyblaethol i broblemau sy'n ymwneud â gamblo yn y gymuned filwrol.

Nod y Ganolfan Ymchwil i Gamblo Milwrol (MilGam) yw symleiddio a hyrwyddo ymdrechion ymchwil i astudio gamblo yn y Lluoedd Arfog. Mae hyn yn cynnwys bod yn hyb canolog i ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth, darparu hyfforddiant a chyfnewid gwybodaeth i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith rhanddeiliaid amrywiol.

Mae Canolfan MilGam wedi'i harwain gan yr Athro Simon Dymond, sy'n adnabyddus am ei arbenigedd mewn Seicoleg a Dadansoddi Ymddygiad ym Mhrifysgol Abertawe, a'i chyfarwyddo ar y cyd gan yr Athro Matt Fossey o Sefydliad Cyn-aelodau a Theuluoedd y Lluoedd Arfog Prifysgol Anglia Ruskin.

Pwyslais craidd y Ganolfan yw cydweithredu'n agos â rhanddeiliaid i lunio ac asesu ymyriadau gamblo mwy diogel sydd â'r nod o nodi a chefnogi unigolion yn y gymuned filwrol sydd mewn perygl o gael niwed o ganlyniad i gamblo.

Bydd hyn yn galluogi MilGam i greu tystiolaeth ar sail ymchwil a thriniaeth ar gyfer polisi a newidiadau i sefydliadau dan arweiniad y Weinyddiaeth Amddiffyn drwy hyb tystiolaeth a gwasanaethau cyfnewid gwybodaeth a gaiff eu hymestyn a'u hatgynhyrchu'n fyd-eang. Yn ei hanfod, bydd MilGam yn gwreiddio profiad bywyd o gamblo niweidiol a'r Lluoedd Arfog ym mhob agwedd ar waith y Ganolfan.

Mae ymchwil flaenorol a gynhaliwyd gan yr Athro Dymond a'i gydweithwyr wedi nodi bod cyn-aelodau o Luoedd Arfog y DU mewn mwy o berygl na'r boblogaeth gyffredinol o gael niwed o ganlyniad i gamblo, gyda chostau sylweddol o safbwynt economaidd, gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Ar ben hyn, mae'n ymddangos bod y perygl cynyddol yn cynnwys y rhai hynny sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ar hyn o bryd, gan amlygu bod angen gwella'r ddealltwriaeth o'r heriau y mae holl aelodau cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu, a'r cymorth iddynt. 

Meddai'r Athro Dymond: “Dros y blynyddoedd diweddar, rydyn ni wedi cwblhau'r astudiaethau cyntaf o gyffredinrwydd yn y DU sy'n canolbwyntio ar gamblo ymhlith aelodau presennol a chyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog. Mae'r astudiaethau hynny wedi sbarduno'r sgwrs am y broblem gynyddol hon i iechyd y cyhoedd a sut mae'n effeithio ar y gymuned filwrol.

“Rydyn ni'n gobeithio y bydd y Ganolfan yn rhoi pwyslais ar ymchwil sy'n meithrin dealltwriaeth well o ymddygiad gamblo yn y boblogaeth filwrol, yn gwerthuso ymyriadau newydd, ac yn datblygu rhaglenni addysg ac ymwybyddiaeth effeithiol i leihau'r niwed i'r rhai hynny sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a'r rhai hynny sydd wedi gadael y Lluoedd Arfog.”

Crëwyd MilGam drwy gyllid gwerth mwy na £500,000 a ddyfarnwyd gan Gronfa Setliadau Rheoleiddiol y Comisiwn Gamblo. Mae'r cyllid hwn, sy'n deillio o gosbau a osodir ar weithredwyr gamblo am dorri rheoliadau, yn amlygu'r ymrwymiad i fynd i'r afael mewn modd cyfrifol a rhagweithiol â phroblemau sy'n ymwneud â gamblo.

Rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Ymchwil i Gamblo Milwrol.

Rhannu'r stori