Llun pen ac ysgwydd o fenyw ifanc yn gwenu yn erbyn cefndir pinc

Mae llwyddiant anhygoel myfyrwyr megis Caitlin Tanner, a oedd y rhai cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol, yn cael ei amlygu mewn ymgyrch genedlaethol newydd a arweinir gan Universities UK.

Astudiodd Caitlin Nyrsio Oedolion yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, Prifysgol Abertawe gan raddio gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Hi oedd yr aelod cyntaf o'i theulu i fynd i'r Brifysgol ac yna dreuliodd hi dair blynedd yn astudio'n rhan-amser am MA mewn addysg ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol pan oedd hi'n gweithio fel nyrs yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Treforys yn ystod y pandemig. 

Cafodd Caitlin, a oedd wedi'i geni'n ddwys-fyddar yn ddwyochrog, lawdriniaeth mewnblaniad yn y cochlea yn ystod ei hastudiaethau Safon Uwch yn 2016. Y ffordd y gofalodd meddygon a nyrsys amdani yn ystod ei thriniaeth a'i hysbrydolodd i weithio ym maes gofal iechyd. 

Ac mae ei haddysg yn parhau. Mae hi bellach yn astudio am PhD mewn Nyrsio yn y Brifysgol, gan ymchwilio i brofiadau nyrsys byddar yn y DU. 

Meddai: "Mae'r Brifysgol wedi cael effaith fawr ar fy mywyd ac rwy'n teimlo fel ei bod wedi fy ngosod i ar y llwybr i helpu pobl eraill. Er enghraifft, gwnes i gymhwyso i fod yn nyrs gyffredinol gofrestredig a sylweddolais i fod bylchau yn yr wybodaeth am anghenion pobl sy'n fyddar. 

"Rwy'n teimlo'n ffodus fy mod i mewn sefyllfa wybodus lle gallaf wneud newidiadau sy'n gallu gwella profiadau pobl eraill mewn ffordd gadarnhaol. Rwy'n helpu cleifion ond rwyf hefyd yn chwarae rhan weithredol wrth ymchwilio i sut i wneud yr amgylchedd clinigol yn fwy addas i nyrsys staff sydd wedi colli eu clyw neu sy'n datblygu'r cyflwr hwn drwy gydol eu gyrfaoedd — gan fod colli clyw sy'n gysylltiedig ag oedran yn gallu effeithio ar y staff." 

  • Nod Ymgyrch 100 o Wynebau Universities UK yw hyrwyddo a dathlu'r effaith gadarnhaol y mae myfyrwyr graddedig sy’n aelodau cyntaf o’u teuluoedd i fynd i'r Brifysgol yn ei chael ar y DU er mwyn i ni amlygu'r angen am fynediad at gymorth a sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr yn gallu cyflawni eu potensial fel myfyrwyr graddedig;
  • Fel rhan o'r ymgyrch, mae ymchwil newydd yn datgelu'r effaith drawsnewidiol o fynd i'r Brifysgol ar uchelgais (74 y cant), ac roedd bron tri chwarter (73 y cant) o fyfyrwyr a oedd yr aelodau cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol yn cytuno bod eu gradd wedi rhoi'r hyder iddynt gyflwyno ceisiadau am swyddi heb iddynt deimlo fel ffugwyr;
  • Mae'r ymchwil hefyd yn amlygu dibyniaeth myfyrwyr sydd yr aelodau cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol ar gymorth ariannol sy'n lleihau - heb gymorth ariannol, ni fyddai dros 4 o bob 10 o fyfyrwyr a oedd yr aelodau cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol yn gallu fforddio mynd i'r Brifysgol o gwbl; ac,
  • wrth i ddarpariaethau ariannol leihau ac wrth i gostau byw gynyddu, mae Universities UK yn galw ar y llywodraeth i ailgyflwyno grantiau cynhaliaeth a chynyddu'r cymorth i fyfyrwyr yn y dyfodol

Mae'r canfyddiadau hyn yn deillio o ymchwil newydd helaeth, sydd wedi'i chomisiynu gan Universities UK, i brofiadau 6,004 o fyfyrwyr graddedig yn y DU a 4,006 o bobl nad oedd ganddynt radd o Brifysgol, rhwng 24 a 40 oed, ledled y DU. 

Mae llwyddiant myfyrwyr fel Caitlin yn dangos y rôl anhygoel y gall y Brifysgol ei chwarae – yn enwedig yn achos y myfyrwyr hynny sydd yr aelodau cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol ac sy'n wynebu rhwystrau sylweddol cyn iddynt gyrraedd y campws hyd yn oed. Er gwaethaf yr anghydraddoldeb hwn, mae myfyrwyr sydd yr aelodau cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol yn ffynnu yn y Brifysgol – a dywedodd tri chwarter o'r ymatebwyr a oedd yr aelodau cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol fod eu profiadau yn y Brifysgol wedi eu gwneud yn fwy hyderus ac uchelgeisiol yn ogystal â rhoi profiadau ehangach o fywyd a sgiliau bywyd hollbwysig iddynt sy'n parhau i gael effaith ymhell ar ôl iddynt raddio. 

Fodd bynnag, nododd yr ymchwil hefyd fod angen mwy o gymorth ariannol i sicrhau bod myfyrwyr sydd yr aelodau cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol yn gallu llwyddo. Mae dros 4 o bob 10 (41 y cant) o fyfyrwyr sydd yr aelodau cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol yn credu na fyddent wedi gallu fforddio mynd i'r Brifysgol heb gymorth ariannol, a phan ofynnwyd i bobl ledled y DU nad oedd ganddynt radd o Brifysgol beth gallai fod wedi eu perswadio i fynd i'r Brifysgol, atebodd bron  hanner ohonynt (48 y cant)  mwy o gymorth ariannol. 

Roedd llawer o'r myfyrwyr graddedig a ymatebodd i'r arolwg hwn yn gymwys am grantiau cynhaliaeth nad oedd rhaid eu had-dalu pan oeddent yn fyfyrwyr, ond disodlwyd y rhain gan fenthyciadau ad-daladwy yn Lloegr yn 2016, er bod grantiau cynhaliaeth yn parhau i gael eu cynnig yng Nghymru,  yr Alban ac ar gyfer rhai cyrsiau gofal iechyd yn Lloegr. 

Yn sgîl hyn, mae Universities UK yn ymgyrchu i amlygu cyflawniadau'r myfyrwyr graddedig anhygoel sydd yr aelodau cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol ym mhob cymuned ac i sicrhau na fydd cenedlaethau'r dyfodol yn colli'r cyfle i brofi effaith drawsnewidiol addysg brifysgol.  

Meddai Vivienne Stern MBE, Prif Weithredwr Universities UK:  "Mae yna rai pobl sy'n dweud bod gormod o bobl yn mynd i'r Brifysgol.Rwy'n anghytuno.Bydd y straeon hyn yn dweud wrthych chi pam.Yn y wlad hon, rydych chi  ddwywaith yn fwy tebygol o fynd i'r Brifysgol o hyd os ydych chi'n dod o'r cefndir mwyaf cyfoethog, o'i gymharu â'r cefndir lleiaf cyfoethog. Dyw hynny ddim yn deg. 

"Rwy'n credu bod gennym gyfrifoldeb i barhau i weithio i sicrhau bod amrywiaeth ehangach o bobl yn y wlad hon yn cael mynediad at y profiad o fynd i'r Brifysgol, sy'n gallu bod yn drawsnewidiol.Er mwyn i hynny ddigwydd, mae gwir angen i ni weld gwelliant o ran cymorth cynhaliaeth i gefnogi'r rhai hynny sy'n dod o'r cefndiroedd lleiaf breintiedig."

 

Rhannu'r stori