Mae'r Sefydliad Ymchwil Heneiddio'n Iach a Chyflyrau Cronig yn arwain dulliau rhyngddisgyblaethol arloesol i hybu iechyd gydol oes a darparu ymyriadau gwell i reoli cyflyrau cronig yn fwy effeithlon.

Drwy gydol ein bywydau rydym yn agored i ffactorau amgylcheddol, biolegol, seicolegol a chymdeithasol sy'n effeithio ar ein hiechyd a'n lles. Mae'r Sefydliad Ymchwil Heneiddio'n Iach a Chyflyrau Cronig yn cynhyrchu tystiolaeth o ansawdd uchel i ddeall y ffactorau hyn yn well, ac i ddatblygu polisïau ac arferion i gefnogi pobl i heneiddio'n dda. Mae ein hymchwil yn rhychwantu pob cyfnod o fywyd ac yn integreiddio mewnwelediadau o'r cellog i'r lefel gymdeithasol.

Ategir hyn gan ymchwil rhyngddisgyblaethol rhyngwladol sy'n cwmpasu astudiaethau arsylwi ar raddfa fawr, ymchwil arbrofol, astudiaethau ansoddol, a chyflwyno datblygiadau mewn atal, diagnosis a thriniaeth gynnar, i wella rheolaeth glinigol cyflyrau cronig.

Mae ymgysylltu a chynnwys rhanddeiliaid allweddol ac aelodau o'r cyhoedd yn rhan greiddiol o'n hymchwil i helpu pobl i gael bywydau iachach a hirach.

Ein Meysydd Ymchwil

Deall a rheoli clefydau cronig

Canser, Clefyd Cardiofasgwlaidd, Diabetes ac Iechyd Menywod

Deall a rheoli clefydau cronig

Cefnogi poblogaethau sy'n heneiddio

Cefnogi pobl â chyflyrau cronig, poblogaethau niwroamrywiol a dementia

Claf yn cael sgwrs

Ffactorau Seicolegol

Gwerthuso cyd-forbidrwydd seicolegol a sut maent yn effeithio ar triniaeth

Astudiaeth Seicoleg

Ffactorau ffordd o fyw

Pennu effeithiau iechyd andwyol a achosir gan amlygiad defnyddwyr ac amgylchedd

Llun dinas

Anghydraddoldebau cymdeithasol

Deall canlyniadau iechyd tlodi, diwylliant a symudedd

Llun tai

Ein gweithgareddau

Grŵp llywio

Professor Christopher George, Professor, Biomedical Sciences

Professor Andrea Tales, Personal Chair, Public Health

Professor Deya Gonzalez, Professor, Biomedical Sciences

Dr Gary Christopher, Senior Lecturer, Public Health

Dr Laura Wilkinson, Associate Professor, Psychology

Dr Deborah Morgan, ENRICH Cymru Research Manager, Public Health

Professor Deborah Fitzsimmons, Personal Chair, Public Health

Dr James Murray, Senior Lecturer, Biomedical Sciences

ECR Working Group

Cymryd Rhan

Rydym yn croesawu unrhyw un sy’n rhannu ein gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd i ymuno â ni i hybu ein gweithgarwch cydweithio, gartref a thramor.

Yn benodol, rydym yn bwriadu parhau i gryfhau ein cysylltiadau â’r GIG, diwydiant a phartneriaid eraill ledled y byd.

Cysylltwch â ni