Bathodyn heddlu dwyieithog ar gefn siaced gwelededd uchel

Llun: Matthew Horwood

Mae gwerthusiad risg a gynlluniwyd i helpu i amddiffyn menywod rhag trais domestig yn gweithio, ond gellid ei wella i helpu mwy o ddioddefwyr, yn ôl ymchwilwyr.

Defnyddir DASH (Domestic Abuse, Stalking and Honour-Based Violence) gan luoedd heddlu ledled y DU i asesu risg o gamdriniaeth ddomestig yn y dyfodol.

Yn gynharach eleni, dywedodd Jess Phillips, Is-ysgrifennydd Seneddol dros Ddiogelu a Thrais yn erbyn Menywod a Merched, wrth raglen File on 4 y BBC nad yw DASH yn gweithio, yn sgîl tystiolaeth gynyddol ei fod yn methu nodi'n gywir y rhai hynny sydd yn y perygl mwyaf o niwed pellach.

Ond bellach mae ymchwil wedi dangos bod DASH yn ffordd effeithiol o ragfynegi camdriniaeth ddomestig farwol, er y gellid ei wella i helpu dioddefwyr a'r staff rheng flaen sy'n ei ddefnyddio.

Bu tîm o brifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn cydweithredu â Heddlu Dyfed-Powys i archwilio 1,000 o achosion o drais domestig allan o gyfanswm o 25,000 o ddigwyddiadau. Gwnaethant gymharu'r defnydd o DASH mewn achosion pan aeth y gweithredwr ymlaen i gyflawni trais marwol - megis llofruddiaeth - ag achosion lle ni wnaeth y gweithredwr gyflawni trais domestig pellach.

Eu canfyddiad oedd bod pobl a aeth ymlaen i gyflawni gweithred trais marwol bum gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael sgôr risg uchel. Mae'r canlyniad hwn yn debyg i gynlluniau asesu a ddefnyddir mewn gwledydd eraill ac mae'n profi bod DASH yn gweithio fel y bwriadwyd iddo weithio.

At ddiben eu hastudiaeth, aeth yr ymchwilwyr ymlaen i astudio DASH yn fanylach, gan gynyddu ei allu i ragfynegi drwy ddethol yn ofalus ychydig yn unig o elfennau'r cynllun a oedd fwyaf llwyddiannus wrth nodi cyflawnwyr trais marwol. Gallai hyn baratoi'r ffordd ar gyfer fersiwn fwy cryno ond cywir a fyddai'n lleihau'r amser a'r adnoddau a ddefnyddir gan staff rheng flaen i gwblhau DASH ond hefyd yn cynyddu ei effeithiolrwydd.

Mae eu canfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi gan y cyfnodolyn rhyngwladol Forensic Sciences.

Pwysleisiodd yr Athro Nicola Gray o'r Ysgol Seicoleg nad rhagfynegi trais yn y dyfodol yn unig yw prif amcan DASH.

Meddai: “Nid rhagfynegi yn unig yw nod asesu risg, ond atal trais o'r fath. Serch hynny, mae pob sefydliad yn gweithio ag adnoddau cyfyngedig ac mae angen gwybod sut i dargedu'r rhai hynny sydd angen help fwyaf. Mae'n hanfodol bod gan yr heddlu a gweithwyr rheng flaen eraill arferion ar sail tystiolaeth sy'n eu helpu yn y broses hon.”

Meddai'r prif awdur, Karen Caulfield: “Er ein bod wedi dangos bod DASH yn gweithio cystal â chynlluniau asesu risg eraill, mae angen pwysleisio na fydd yr un cynllun byth yn gallu rhagfynegi'r dyfodol yn berffaith. Bydd achosion lle mae'r offeryn, neu farn ddynol, yn awgrymu mân risg, ond wedyn mae rhywbeth ofnadwy'n digwydd. Mae achosion o'r fath yn erchyll i'r rhai hynny sy'n ymwneud â nhw ac yn denu sylw.

“Fodd bynnag, dyw'r achosion pan fyddwn ni'n rheoli'r risg yn gywir ddim yn denu sylw. Mae hyn yn rhoi'r argraff bod y cynlluniau'n wael ond maen nhw'n gweithio'n dda mewn gwirionedd. Mae'n rhaid i ni barhau i wella'r arferion hyn i helpu i ddiogelu dioddefwyr."

Ychwanegodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dyfed-Powys, Andrew Edwards: “Mae'r heddlu wedi ymrwymo i'r safonau uchaf o blismona mewn achosion o gamdriniaeth ddomestig. Mae ein swyddogion yn benderfynol o helpu i ddiogelu'r rhai hynny sydd mewn perygl. Fel sefydliad, rydyn ni'n falch ein bod wedi helpu wrth hwyluso'r ymchwiliad hwn a darparu tystiolaeth o effeithiolrwydd DASH."

Darllenwch y papur yn llawn

Dysgwch fwy am Ysgol Seicoleg

 

Rhannu'r stori