Mae'r Gyfadran Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnal ymchwil mewn ystod eang o feysydd sy'n rhychwantu gwyddoniaeth fiofeddygol, iechyd cyhoeddus, seicoleg a disgyblaethau perthynol i iechyd gan gynnwys ymchwil nyrsio. Fel Cyfadran prifysgol ymchwil-ddwys, croesawn geisiadau am gyllid cymrodoriaeth allanol gan wyddonwyr eithriadol, uchelgeisiol sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd perthnasol ac sydd am ddod i weithio yn un o'n meysydd cryfder ymchwil.

Rydym yn cydnabod na fydd ymchwil sy’n cael effaith bob amser yn ffitio’n daclus i un adran disgyblaethol, ac rydym yn annog ymholiadau cymrodoriaeth ar gyfer prosiectau ar draws nifer o feysydd blaenoriaeth gan gynnwys y rhai sydd angen ymagwedd amlddisgyblaethol. Mae gennym gysylltiadau rhagorol â Chyfadrannau eraill y Brifysgol, yn enwedig y Gyfadran Wyddoniaeth a Pheirianneg a Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae gennym hefyd bartneriaethau strategol gyda dau fwrdd iechyd GIG trwy Bartneriaeth ARCH (Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd).

Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn gadarnhaol ac yn annog ceisiadau gan y rheini sy’n dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd, a chan y rheini y gallai eu nodweddion fod yn cael eu tangynrychioli. Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan unigolion sydd wedi cael seibiant gyrfa blaenorol. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau y caiff tegwch ei adlewyrchu'n llawn yn ein holl brosesau trwy hyrwyddo polisi sy'n cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Os ydych yn ystyried eich hun yn arweinydd yn eich maes ymchwil yn y dyfodol a bod gennych ddiddordeb mewn bod yn gymrawd a ariennir yn allanol ym Mhrifysgol Abertawe, gweler isod am fanylion ynghylch sut y byddwn yn ystyried ac yn cefnogi eich cais am gymrodoriaeth.

Cysylltu â Ni

Rydym yn croesawu pob ymholiad gan ddarpar gymrodyr ymchwil, gan gynnwys ymholiadau anffurfiol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau, y cymorth sydd ar gael a’r broses ymgeisio, cysylltwch â’r Hyb y Gyfadran Ymchwil ac Arloesi, Meddygaeth, Iechyd, a Gwyddorau Bywyd.

mhlsfellowships@swansea.ac.uk