Pam astudio Meddygaeth i Raddedigion yn Abertawe?

Mae ein Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion (MBBCh) yn 4ydd yn y DU (The Guardian University Guide 2024), sy'n unigryw yng Nghymru, ac mae'n un o grŵp bach o raglenni astudio meddygol tebyg yn y DU. Mae'n radd feddygol arloesol a charlam dros bedair blynedd sydd ar gael i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth.

Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS?

Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol.

Canllaw UCAS Extra

Ein Straeon myfyrwyr

Shannon Rowlands

"Pan ddes i’r diwrnod agored ac am fy nghyfweliad, roedd y Brifysgol yn teimlo fel lle cyfeillgar iawn. Roedd hyn yn wir am bawb nes i gyfarfod yn yr Ysgol Feddygol hefyd, a’r niferoedd weddol fach ar y cwrs yn gwneud i'r profiad deimlo'n fwy personol ac fel bod yn rhan o deulu. Dwi wedi bod yn ffodus i gael cwrdd â phobl a gweld pethau arbennig, sydd wir yn fraint. Dwi’n teimlo’n ffodus fy mod wedi cael lle i astudio Meddygaeth yma. Mae’r cwrs mor ddifyr ac yn cadw ni’n brysur ond dyw e ddim yn teimlo fel gymaint â hynny o waith pan fydd popeth mor ddiddorol."

Darganfod mwy am stori myfyriwr Shannon Rowlands 

Beth yw strwythur y cwrs?

Mae'r cwricwlwm wedi cael ei strwythuro i adlewyrchu'r ffordd y mae clinigwyr yn ymdrin â chleifion a'r ffordd y mae cleifion yn cyflwyno eu hunain i feddygon.  Caiff y gwyddorau biofeddygol sylfaenol eu dysgu yng nghyd-destun meddygaeth glinigol, iechyd cyhoeddus, patholeg, therapiwteg, moeseg a materion seicogymdeithasol wrth reoli cleifion.

Sut alla i deilwra fy astudiaethau?

Byddwch yn dod i gysylltiad â'r maes clinigol ar raddfa fawr o'r cychwyn cyntaf drwy gyfleoedd dysgu mewn lleoliad clinigol, prentisiaethau clinigol, swyddi cynorthwyydd iau, cysylltiadau arbenigol a dysgu yn y gymuned. Bydd hyn, ynghyd â phwyslais mawr ar sgiliau clinigol a sgiliau cyfathrebu, yn sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i ymarfer meddygaeth yn foddhaol ac yn hyderus.

BETH YDYM YN CHWILIO AMDANO WRTH GYFWELD AM FEDDYGAETH?

Rydym yn credu bod gan y meddygon mwyaf llwyddiannus y nodweddion hyn::

  • Sgiliau cyfathrebu clir
  • Y gallu i ddatrys problemau
  • Y gallu i ymdopi â phwysau
  • Yn ymwybodol ac yn onest
  • Yn frwd dros feddygaeth ac yn benderfynol o lwyddo
Awgrymiadau ar gyfer Cyfweliadau ym maes Meddygaeth

BETH OS NAD OES GEN I RADD ISRADDEDIG EISOES?

Mae ein gradd Meddygaeth yn mynediad graddedig, felly mae angen i chi gael gradd er mwyn gwneud cais i astudio Meddygaeth gyda ni. Os ydych yn gwneud cais am raddau Meddygaeth Israddedig ac yn chwilio am 5ed dewis ar gyfer eich cais UCAS, neu os ydych yn awyddus i fynd ati cyn ymgymryd ag astudiaethau meddygol, mae ein Llwybrau i Feddygaeth yn ddelfrydol i chi. Bydd ein graddau Llwybrau i Feddygaeth yn rhoi cyfle i chi sicrhau cyfweliad gwarantedig ar gyfer ein rhaglen Meddygaeth i Raddedigion erbyn i chi raddio.

Llwybrau i Feddygaeth

Archwiliwch opsiynau eich cwrs ...

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am bob un o'n cyrsiau. Ar bob tudalen cwrs fe welwch wybodaeth am fodiwlau, gofynion mynediad, staff addysgu, ffioedd dysgu a sut mae ein Llwybrau i Feddygaeth yn gweithio.