Dros y 100 mlynedd ddiwethaf, mae ein hymchwil wedi bod yn gwneud gwahaniaeth. Rydyn ni’n cynnal ymchwil mewn nifer o feysydd gwahanol, gan annog cydweithredu, arloesedd, ac effaith byd go iawn. O gynnal ymchwil ar faterion byd-eang megis newid yn yr hinsawdd ac ynni cynaliadwy, i ymchwil feddygol ym maes clefyd y galon a chanser, gallai eich cefnogaeth sicrhau bod yr ymchwil hon sy’n adnabyddus ledled y byd yn parhau i weddnewid bywydau. 

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ar frig y rhestr o ysgolion meddygol gorau’r DU o safbwynt amgylchedd ymchwil, ac mae’n ail o safbwynt ansawdd cyffredinol yr ymchwil. Ein nod yw cefnogi ymagwedd unigryw a rhyngddisgyblaethol y Brifysgol at ymchwil ac arloesi sydd wedi effeithio ar iechyd, lles a chyfoeth byd-eang.

Gyda’ch cymorth chi gallwn godi arian i droi ymchwil o safon yn ddatblygiadau eithriadol a chynnal ein safon uchel o ansawdd ymchwil.

Cefnogi ymchwil arloesol

Ymchwil Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe