Cofio Abertawe

Meithrin etifeddiaeth ar gyfer y can mlynedd nesaf

Mae gadael rhodd yn eich ewyllys yn ddewis personol iawn. Mae'n fynegiant o'ch gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n bwysig i chi. Mae cymynroddion yn cael effaith ar draws y sefydliad ac maent yn rhoi cyfle i chi greu cymynrodd sy'n ein helpu i ddeall yn well y byd o'n cwmpas.

Mae stori pawb yn wahanol, ond mae cysylltiad a rennir â Phrifysgol Abertawe a chyd-ddiddordeb mewn diogelu dyfodol Abertawe. Trwy gofio'r Brifysgol yn eich ewyllys, byddwch yn cefnogi myfyrwyr â'r potensial mwyaf, yn ariannu ymchwil arloesol ac yn llunio'r byd y tu hwnt i'n hoes ni.