Gadewch rodd yn eich Ewyllys i Brifysgol Abertawe

Mater personol dros ben yw'ch ewyllys ac os oes gennych ddiddordeb mewn gadael rhodd o unrhyw fath i'r Brifysgol yn eich ewyllys, rydym yn eich gwahodd i drafod eich cynlluniau â ni'n gyfrinachol er mwyn i ni sicrhau ein bod yn deall eich dymuniadau'n llawn ac yn eu gwireddu. 

Os ydych chi eisoes wedi cofio'r Brifysgol yn eich ewyllys, byddem wrth ein boddau'n cael clywed gennych a diolch ichi am eich rhodd arbennig. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n holl gyfeillion a chefnogwyr sydd wedi dewis cofio'r Brifysgol yn y ffordd hon.

Cysylltwch â'n Rheolwr Cymynroddion, Catrin Plumley (c.s.plumley@swansea.ac.uk) a fyddai'n falch o gwrdd â chi i ddarparu rhagor o wybodaeth neu ateb eich cwestiynau.

Gadael etifeddiaeth heddiw

Cysylltwch â ni