Bay Campus image
Dr Sam Buxton

Dr Sam Buxton

Uwch-ddarlithydd, Business

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295853

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
321
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Sam yn uwch ddarlithydd mewn Dadansoddeg Fusnes. Mae’r maes yn edrych ar amrywiaeth o ddulliau ymchwil ar draws disgyblaethau a sut mae modd i reolwyr eu defnyddio i helpu i ddeall, a thrwy hynny wella, perfformiad y cwmnïau maen nhw’n eu rheoli.

Mae’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Rhaglen MSc Rheoli (a’i llwybrau). Cyn hynny roedd hi’n swyddog cyswllt llyfrgell a hefyd yn Swyddog Uniondeb Academaidd ac yn ymdrin â materion camymddwyn academaidd fel llên-ladrad, comisiynu a chydgynllwynio. Mae hi hefyd yn goruchwylio’r gwaith o gydlynu modiwlau MSc dysgu annibynnol: MSc Traethawd Hir ac MSc Prosiectau Busnes.

Cyn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe, cwblhaodd Sam BSc mewn Seicoleg, ac yna MA mewn Busnes gyda Seicoleg Defnyddwyr. Yna aeth ymlaen i PhD mewn Marchnata (Rhagweld).

Mae ganddi ddiddordeb mewn dulliau meintiol, yn benodol atchweliad a rhagweld. Mae hi’n gweithio ar ymchwil addysgeg, megis archwilio addysgu tîm a phresenoldeb.

Mae hi’n hapus i gefnogi ymchwil newydd felly os ydych chi’n meddwl y gallai ei harbenigedd fod o ddiddordeb, cysylltwch â hi.

Meysydd Arbenigedd

  • Dadansoddiad Data Meintiol
  • Rhagweld
  • Dulliau Ymchwil
  • Ymchwil Addysgegol
  • Ymchwil Fferyllol
  • Marchnata Seicoleg Defnyddwyr

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Dros y blynyddoedd, mae Sam wedi dysgu ar nifer o fodiwlau gan gynnwys Ymchwil Marchnata, Rheoli Gweithrediadau, Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi, Entrepreneuriaeth a Chloddio Data ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.

Mae addysgu presennol Sam yn cynnwys Dadansoddeg Fusnes (ar lefel israddedig ac ôl-raddedig) a Dulliau Ymchwil a Phrosiectau Busnes, y ddau ar lefel ôl-raddedig.