bay campus location
Dr Kate Organ

Dr Kate Organ

Uwch-ddarlithydd, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
304
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Dechreuodd Kate weithio yn yr Ysgol Reolaeth yn 2014.  Cyn ymgymryd â rôl darlithydd, bu Kate yn gweithio yn y sector preifat a chyhoeddus, yn cynnal ymchwil i'r farchnad ac ymchwil gymdeithasol ar ran Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, yn ogystal ag i fusnesau bach a mawr.

Mae ei hymchwil mwy diweddar wedi archwilio ymgysylltiad ac emosiynau yng nghyd-destun marchnata drwy brofiadau. Mae diddordebau ymchwil penodol yn perthyn i farchnata bwyd lleol, a datblygu llwybrau bwyd lleol. Ar hyn o bryd mae Kate yn cynnal ymchwil i reoli digwyddiadau ar ran awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro. Yn ogystal, mae hi'n cynnal ymchwil i’r broses owerthuso cynlluniau rheoli twristiaeth.

Ynghyd ag ymchwil twristiaeth a marchnata, mae gan Kate ddiddordeb hefyd mewn addysgeg a gwella dysgu myfyrwyr. Mae ei hymchwil ddiweddar wedi archwilio defnydd e-lyfrau rhyngweithiol i gefnogi dysgu, a rôl asesu i gymell myfyrwyr a gwella eu perfformiad.

Ers ymuno â'r Ysgol Reolaeth, mae Kate wedi dysgu ar amrywiaeth o fodiwlau israddedig ac ôl-raddedig ym maes marchnata.  Mae ei diddordebau addysgu penodol ym maes ymchwil marchnata a dulliau meintiol o ddadansoddi data.

Meysydd Arbenigedd

  • Rheoli digwyddiadau cynaliadwy
  • Twristiaeth gynaliadwy
  • Bwyd lleol
  • Emosiynau
  • Cyd-greu gwerth