Bay Campus image
male smiling

Dr Hamid Eskandari

Darlithydd mewn Gweithrediadau a Dadansoddiadau Strategol (Ymchwil), Business

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 987758

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
301
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Hamidreza Eskandari yn Ddarlithydd Dadansoddeg Fusnes yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Cyn hynny, bu’n Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Modares Tarbiat ac yn Wyddonydd Ymchwil yn Red Lambda Inc., Orlando, Florida. Derbyniodd Hamid ei PhD mewn Peirianneg Ddiwydiannol a Systemau Rheoli o Brifysgol Central Florida, Orlando. Mae ei ymchwil wedi ymddangos yn y cyfnodolion blaenllaw sy’n cael eu defnyddio i raddio ymchwil ysgolion busnes, gan gynnwys yr International Journal of Production Research, Transportation Research Part A, International Journal of Production Economics, Journal of Operational Research Society, Journal of Heuristics, a chyfnodolion eraill. Yn ystod ei PhD, bu’n gwasanaethu fel Cyswllt Ymchwil ar ambell brosiect mawr a ariannwyd gan yr NSF a NASA-KSC. Ar hyn o bryd mae’n gwahodd geisiadau gan ymgeiswyr doethurol ym meysydd Dadansoddeg Fusnes a Data.

Meysydd Arbenigedd

  • Dadansoddeg Data Mawr
  • Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol
  • Optimeiddio Esblygiadol Aml-amcan
  • Gwneud Penderfyniadau ar sail Meini Prawf Lluosog
  • Efelychu a Modelu Ystadegol
  • Gweithrediadau Gofal Iechyd
  • Logisteg a’r Gadwyn Gyflenwi
  • Dadansoddi Systemau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Dr Eskandari yn dysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ym meysydd Dadansoddeg Fusnes a Gweithrediadau Strategol, gan gynnwys Dysgu Peirianyddol, Dadansoddeg a Modelu Ystadegol ar gyfer Busnes.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau