Nod y Ganolfan Ymchwil i Farchnadoedd Newydd (EMaRC) yw canolbwyntio ar bob maes ymchwil (gan gynnwys Systemau Gwybodaeth, Rheoli Gweithrediadau, Rheoli Adnoddau Dynol, Entrepreneuriaeth, Marchnata, Cyfrifyddu a Chyllid ac Economeg) y mae gan yr Ysgol ddiddordeb ac arbenigedd ynddo ar yr amod bod y cyd-destun ymchwil yn ymwneud yn uniongyrchol â gwledydd sy'n datblygu gan gynnwys aelodau o BRICS (Brasil, Rwsia, India, Tsieina a De America). Ar hyn o bryd, mae ffocws a gweithgareddau'r Ganolfan yn canolbwyntio ar feysydd systemau gwybodaeth, llywodraeth electronig, a materion yn ymwneud â chyfryngau cymdeithasol a digidol mewn perthynas â marchnadoedd sy'n datblygu fel India.

Nod EMaRC yw rhoi llwyfan cyffredin i staff yr Ysgol ar gyfer hwyluso gweithgareddau ymchwil cydweithredol gyda sefydliadau ac ymchwilwyr o economïau sy'n datblygu. O ganlyniad i'w ffocws ar gyd-destun yn hytrach nag ar faes ymchwil penodol, mae i EMaRC natur amlddisgyblaethol yn ogystal â rhyngddisgyblaethol, felly mae'n croesawu aelodau o bob rhan o'r Ysgol Reolaeth ac o Ysgolion/Colegau eraill Prifysgol Abertawe. Dylid hefyd nodi bod croeso i academyddion ac ymchwilwyr o wledydd datblygedig gydweithio drwy'r Ganolfan hon os ydynt yn gweithio ar faterion sy'n ymwneud â marchnadoedd sy'n datblygu.

Mae'r Ganolfan yn ceisio gwneud cyfraniadau defnyddiol at gymdeithas drwy gyfnewid gwybodaeth ac archwilio problemau ymchwil sy'n benodol i farchnadoedd newydd. Un ffocws allweddol sydd gan y Ganolfan hon yw hyrwyddo cydweithio ac ymgysylltu rhyngwladol. Mae EMaRC hefyd yn gartref i nifer o ymgeiswyr doethurol a graddedigion sydd wedi cwblhau eu doethuriaethau'n llwyddiannus.

Yr Athro Yogesh Dwivedi

- Cyfarwyddwr

male smiling