Trosolwg
Daearyddwr arfordirol ydw i ac mae fy ymchwil yn archwilio sut mae prosesau biolegol, ffisegol a chymdeithasol yn rhyngweithio ar draws graddfeydd lleol a rhanbarthol i lunio gwlyptiroedd arfordirol a'r cymunedau sy'n dibynnu arnynt. Mae fy ngwaith yn croesi disgyblaethau bio-geomorffoleg, gwydnwch ecolegol-gymdeithasol a chynaliadwyedd gwasanaethau ecosystem. Defnyddiaf ystadegau gofodol, monitro hydrolegol a gwyddoniaeth dinasyddion er mwyn datblygu cyngor ymarferol ac offer rheoli i gefnogi cadwraeth gwlyptiroed arfordirol.