Trosolwg

Mae’r prosiect Cymuned Ymarfer Arloesi Agored (OICoP), a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cefnogi busnesau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd ar y cyd, er mwyn cynyddu cynhyrchiant ar y cyd ar draws de Cymru. Mae’r rhaglen OICoP yn helpu’r busnesau i rannu gwybodaeth er mwyn ehangu eu sylfeini gwybodaeth a chefnogi’r Economi Sylfaenol yng Nghymru. Mae OICoP yn adeiladu ar y peilot Datblygu Perfformiad Arloesi Clystyrau o Gwmnïau a Chadwyni Cyflenwi (DIPFSCC) a ariannwyd gan SMART Expertise. Mae OICoP yn ehangu methodoleg DIPFSCC i gynnwys cwmnïau mewn sectorau gwahanol, gan felly estyn buddion arloesi agored i gynulleidfa lawer ehangach, creu mecanwaith cefnogi cymuned ymarfer (CoP) a ategir gan fethodoleg brofedig, y gellir ei hailadrodd, sy’n seiliedig ar ymchwil addysgeg academaidd gyfoes.

Llywodraeth Cymru / Welsh Government

Pam

  • Gwella gwybodaeth a sgiliau arloesi’r busnesau sy’n cymryd rhan er mwyn datblygu cynhyrchion newydd, ysgogi cynhyrchiant a chyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Cefnogi busnesau i greu Cymuned Ymarfer o fewn sefydliadau er mwyn gwreiddio a chynnal systemau rheoli arloesi (galluoedd dynamig uwch).
  • Hwyluso creu Cymunedau Ymarfer arloesi rhwng sefydliadau i alluogi busnesau i greu cynhyrchion ar y cyd a gwella eu (gallu amsugnol).
  • Hwyluso creu rhwydweithiau gweithredu arloesi rhwng sefydliadau er mwyn ysgogi galw rhanbarthol am gymorth ymchwil, datblygu ac arloesi a gwella lefelau parodrwydd technegol rhanbarthol.
  • Gwella gwybodaeth busnesau am economïau cylchol er mwyn cefnogi’r broses o symud i dwf economaidd cynaliadwy ac economi sylfaenol ranbarthol (mynd i’r afael â her ein cenhedlaeth).
  • Manteisio ar yr wybodaeth a’r adnoddau a geir mewn prifysgolion i gefnogi twf busnesau cynaliadwy.

Sut

  • Gweithdai dysgu drwy brofiad i sefydlu Cymuned Ymarfer cydweithredol sy’n tywys rheolwyr drwy fodelau arloesi a gwybodaeth am economïau cylchol.
  • Creu Cymuned Ymarfer o reolwyr busnes – rhwng sefydliadau ac o fewn sefydliadau – sy’n darparu cymorth a her i gymheiriaid er mwyn hwyluso a chynnal arloesedd.
  • Cydweithio i greu cynhyrchion a gwasanaethau newydd o fewn y rhwydweithiau sy’n manteisio ar yr arbedion maint graddfa sydd ar gael i’r rhwydwaith gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Co-Innovate.

Beth

  • Rhaglen naw mis wedi’i hwyluso sy’n creu Cymuned Ymarfer Arloesi Agored a fydd yn cynnwys gweithdai, ymweliadau safle, dysgu gweithredol, dysgu a chymorth gan gymheiriaid, cymorth arbenigol a chynhyrchion/gwasanaethau newydd ar y cyd.
  • Datblygu llawlyfr o’r ‘hyn sy’n gweithio’ ar gyfer busnesau sydd am ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd.



I dderbyn ein pecyn gwybodaeth am y rhaglen sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am ein rhaglen, ein gweithdai, a’r sgiliau y byddwch chi’n eu hennill, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Gary Walpole, yn g.l.r.walpole@swansea.ac.uk

Pobl
Nodiadau gludiog
gwaith grŵp

Astudiaethau achos o'r prosiect peilot

Dwr Cymru Welsh Water -

Gwrando ar gyfranogwyr yn siarad am pam eu bod wedi ymgysylltu â'r rhaglen, yr hyn a ddysgwyd ganddynt a sut y mae hyn wedi cael effaith yn eu sefydliad:

Bydd y negeseuon cymeradwyaeth a ddarperir yn y fideos a fydd yn ymddangos ar y dudalen we hon yn deillio o gyfranogwyr rhaglen Datblygu Perfformiad Arloesi Cwmnïau a Chlystyrau Cadwyn Cyflenwi, sef rhagflaenydd y prosiect hwn -