Kaycee yn ei hiwnifform.

Mae myfyrwraig o Brifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Myfyriwr Gorau uchel ei bri'r Cyngor Pwyllgorau Addysg Filwrol (COMEC).

Mae'r Is-swyddog Uwch (SUO) Kaycee Jacka, sy'n astudio am radd Meistr mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth, wedi cael ei chydnabod am ei hymroddiad rhagorol i'w hastudiaethau a'i gwasanaeth gyda Chorfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgolion Cymru (UOTC).

Mae'r wobr yn anrhydedd o fri a roddir i unigolion sydd wedi arddangos perfformiad ac arweinyddiaeth neilltuol yn eu hunedau gwasanaeth gwahanol mewn prifysgolion yn y DU, gan gynnwys yr UOTC, Unedau Prifysgolion y Llynges Frenhinol a Sgwadronau Awyr Prifysgolion.

Mae'r unedau gwasanaeth yn gymdeithasau mewn prifysgolion sy'n cynnig hyfforddiant arweinyddiaeth a hyfforddiant milwrol i genedlaethau’r dyfodol o bobl ddawnus ein cenedl.

Drwy sgiliau diplomyddol ac ysgogiad personol gwych, mae Kaycee wedi atgyfnerthu perfformiad UOTC Cymru a gwella darpar yrfaoedd milwrol a phrofiad prifysgol swyddogion eraill ymhlith y cadetiaid. 

I bob pwrpas, mae Kaycee yn cydlynu rhwydwaith cymhleth o is-swyddogion eraill, gan fynd ati'n aml i gadeirio fforymau a mynd i'r afael â phroblemau, adborth, cwynion a heriau. Mae'n llwyddo i ddatrys y rhan fwyaf o broblemau heb yr angen i'w huwchgyfeirio, gan brofi ei harweinyddiaeth, ei hempathi a'i hygrededd ymhlith ei chymheiriaid.

Meddai'r Is-gyrnol Andrew Child, Pennaeth Milwrol Corfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgolion Cymru: “Wrth ddilyn ei gradd Meistr, mae Kaycee wedi dangos ymrwymiad diwyro ac arweinyddiaeth eithriadol. Mae ei hymdrechion diflino a'i hymroddiad wedi bod yn destun balchder i Brifysgol Abertawe, yn ogystal â bod yn esiampl berffaith o werthoedd ac egwyddorion yr UOTC.”

Bydd Kaycee yn mynd i Gynhadledd COMEC 2023 uchel ei bri yng Ngholeg Morwrol Brenhinol Britannia ym mis Medi i dderbyn ei gwobr.

Gan fyfyrio ar arwyddocâd y wobr, meddai Kaycee: “Mae bod yn rhan o'r UOTC dros y tair blynedd diwethaf wedi agor drysau ac wedi fy ngalluogi i gael profiad o amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi cyfoethogi fy natblygiad personol a fy mywyd yn y brifysgol.

“Rwy'n hynod ddiolchgar am y gydnabyddiaeth sy'n cyd-fynd â'r wobr hon, ac rwy'n argymell yr UOTC i bawb sy'n dod i’r brifysgol fel modd o'ch gwthio eich hun i ragori ar eich disgwyliadau blaenorol, yn ogystal â chwrdd â ffrindiau newydd a fydd yn para am oes.”

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Rydyn ni'n hynod falch o gyflawniadau Kaycee, sy'n ysbrydoliaeth bwerus i ni i gyd. Mae Kaycee yn amlygu pwysigrwydd dyfalbarhad ac ymrwymiad, i dwf a datblygiad personol yn ogystal ag uchelgeisiau academaidd.”

Yn ddiweddar, croesawodd yr Athro Boyle gynrychiolwyr o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys yr Is-gyrnol Child, i'r Brifysgol i lofnodi cyfamod i ddathlu cydweithrediad parhaus ac edrych ymlaen at gyfleoedd i gynnig cymorth a chydweithio yn y dyfodol.

Rhannu'r stori