Llun o glawr blaen y llyfr ochr yn ochr â llun pen ac ysgwydd o ddyn

Mae'r arbenigwr mewn cwsg o Brifysgol Abertawe, Mark Blagrove, yn mynd i Galiffornia ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau i hyrwyddo ei lyfr newydd.

Daeth yr Athro Blagrove, cyfarwyddwr Labordy Cwsg Prifysgol Abertawe, ynghyd â'r artist Dr Julia LockheartGoleg Celf Abertawe i ysgrifennu The Science of Art and Dreaming yn dilyn llwyddiant eu cydweithrediad celf gwyddoniaeth DreamsID.com (Dreams Illustrated and Discussed). 

Lansiwyd y llyfr yn swyddogol yn gynharach eleni yn Amgueddfa Freud yn Llundain ac ers hynny mae'r ddau wedi bod yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau yn Abertawe ac yng Ngŵyl y Gelli eleni. 

Meddai'r Athro Blagrove: "Yn dilyn y llwyddiant beirniadol a phoblogaidd wrth ryddhau ein llyfr, rwy'n llawn cyffro am y sgyrsiau llyfrau a'r sesiynau llofnodi yn Los Angeles, Berkeley, ac Oregon, ac edrychaf ymlaen at gwrdd â phobl sydd wedi ysgrifennu ataf am y llyfr." 

Bydd ef yn siop Barnes & Noble ym Marchnad y Ffermwyr, Los Angeles ddydd Mercher 14 Mehefin, ac mewn digwyddiad llofnodi am ddim a gynhelir yn siop lyfrau Pegasus yn Berkeley ddydd Gwener 16 Mehefin , tra bydd Dr Lockheart yn ymuno ar-lein. Bydd modd gwylio'r ddau ddigwyddiad am ddim ar Facebook Live   

Bydd yr Athro Blagrove hefyd yn ymuno â 40fed gynhadledd flynyddol y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Astudio Breuddwydion yn Oregon o 18 Mehefin. 

Mae The Science and Art of Dreaming  yn archwilio achosion biolegol, seicolegol a chymdeithasol breuddwydio ac yn amlinellu datblygiadau diweddar wrth astudio hunllefau a breuddwydio clir. Mae hefyd yn annog rhannu breuddwydion i hyrwyddo dychymyg, creadigrwydd, hunanfyfyrio ac agosrwydd at bobl eraill. Mae pob pennod yn dechrau â naratif breuddwyd a darlun cysylltiedig o'r freuddwyd, i dynnu sylw at agweddau ar themâu pob pennod. 

Mae'r awduron yn dweud bod y llyfr ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol, ac ar gyfer myfyrwyr ac ymchwilwyr mewn seicoleg, yn ogystal â phobl sydd â diddordeb mewn breuddwydion neu gelf a swrealaeth.

 

Rhannu'r stori