Ein Hymchwiliadau Cwsg a Breuddwydio

Mae Labordy Cwsg Prifysgol Abertawe yn ymchwilio i gwsg, breuddwydio, a beth sy'n digwydd pan fydd pobl yn cael diffyg cwsg. Mae myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn yr Adran Seicoleg yn ymwneud â'r gwaith hwn. Weithiau cynhelir astudiaethau y tu allan i'r labordy, ac aseswn cwsg, neu gynnwys breuddwydiol, pobl sy'n cysgu gartref. Neu rydym yn monitro pobl yn y labordy cwsg, gan ddefnyddio electro-enseffalogram (EEG), a gall hyn gynnwys eu deffro i gasglu adroddiadau breuddwydion. Dyluniwyd y labordy i fod mor gyffyrddus ac anghlinigol â phosibl.