Dyn yn tylino troed noeth

Mae teclyn uwch-dechnoleg newydd i helpu pobl â diabetes i gadw eu traed yn iach wedi cael ei lansio i nodi Diwrnod Diabetes y Byd.

Y modiwl sy'n ymwneud â thraed yw'r ychwanegiad diweddaraf at ap llwyddiannus DiabetesClinic@Home, a ddechreuodd fel ffordd o fynd i'r afael â heriau cefnogi pobl â diabetes yn ystod y pandemig ac ategu apwyntiadau rhithwir. 

Wedi'i ddatblygu gan bartneriaeth o arbenigwyr diabetes y GIG, academyddion o Brifysgol Abertawe, grwpiau o gleifion, Eli Lilly and Company Ltd (Lilly UK) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe, mae'r ap yn adnodd digidol ac yn declyn addysg cleifion.

Mae modiwl cyntaf yr ap yn helpu pobl â diabetes i wirio am ddosbarthiad afreolaidd braster o dan y croen, a elwir yn lipos. Mae'r rhain yn cael eu hachosi drwy chwistrellu inswlin droeon yn yr un lle ac nid oedd modd i ymarferwyr gofal iechyd proffesiynol eu canfod yn ystod apwyntiadau rhithwir. 

Gall lipos, neu lipohypertroffedd, effeithio ar lefelau siwgr gwaed (glwcos) gan nad yw inswlin sy'n cael ei chwistrellu mewn man â lipo yn ymledu ac ni fydd yn cael yr effaith ddymunol.

Nod yr ail fodiwl yw helpu pobl â diabetes nad oes ganddynt broblemau hysbys gyda'u traed i wirio eu traed.

Dywedodd Dr Rebecca Thomas, cyd-gyfarwyddwr rhaglen y cwrs MSc Ymarfer Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe, fod y modiwl newydd yn darparu addysg ar bwysigrwydd gwirio eich traed, gofalu am eich traed ac archwilio eich traed eich hunain, a phryd i geisio cymorth. 

Meddai Dr Thomas: “Rydyn ni'n gwybod bod pobl â diabetes yn wynebu risg uwch o ddatblygu problemau gyda'u traed o ganlyniad i lefelau glwcos gwaed uchel sy'n niweidio nerfau a chylchrediad ac yn atal clwyfau rhag iacháu. 

“Gall niwed i nerfau (niwropatheg ddiabetig) yn y traed leihau synwyriadau pobl, gan olygu y byddan nhw'n llai tebygol o synhwyro unrhyw doriadau neu grafiadau. Heb gael eu trin, gall y rhain ddatblygu'n wlserau ac yn heintiau ac arwain at drychiadau yn yr achosion gwaethaf.r 

“Felly, mae'n bwysig bod pobl â diabetes yn gwybod sut i ofalu am eu traed a sut i'w gwirio bob dydd, yn enwedig os oes ganddyn nhw niwropatheg ddiabetig. Mae'r modiwl newydd hwn yn amlygu sut gall pobl wirio eu synwyriadau eu hunain. Mae'n hollbwysig canfod problemau'n gynnar pan fydd modd eu trin yn hawdd.” 

Caiff y modiwl newydd ei lansio'n swyddogol yn ystod digwyddiad arbennig a gynhelir gan Diabetes UK Cymru yn adeilad y Pierhead, Senedd Cymru, i nodi Diwrnod Diabetes y Byd ddydd Mawrth 14 Tachwedd. Y thema eleni yw atal cymhlethdodau sy'n ymwneud â diabetes. Yn ôl y tîm, mae lansio'r modiwl yn hynod amserol o ganlyniad i hynny. 

Gweithiodd tîm o'r Brifysgol dan arweiniad yr Athro Steve Bain, arweinydd clinigol diabetes, a chan gynnwys Dr Thomas, Dr Sarah Prior, cyd-gyfarwyddwr y rhaglen, a Dave Ruckley, technolegydd dysgu, gyda thimau o'r GIG a Lilly UK i ddatblygu'r ap a'i gynnwys. 

Meddai'r Athro Bain: “Gwnaeth y newid i arolygu cleifion allanol â diabetes ar ffurf rithwir yn ystod pandemig Covid-19 arwain at ailfeddwl sut gellid cynnal archwiliadau corfforol arferol. Mae datblygu ap i helpu pobl sy'n byw gyda diabetes i archwilio eu traed eu hunain yn ymateb i'r penbleth hwn, a ddylai alluogi pobl i barhau i gael arolygiadau rhithwir, a hynny'n ddiogel, pan fydd hyn yn cydweddu'n well â'u hanghenion unigol.” 

Mae'r prosiect yn enghraifft o'r math o ddysgu arloesol ac arbenigedd sydd ar gael drwy'r rhaglen MSc a gynigir yn y Brifysgol, sy'n ceisio helpu maes gofal diabetes ac ymchwil i ddiabetes. 

Rhagor o wybodaeth am y rhaglen MSc ac ymchwil i ddiabetes yn Abertawe.

 

 

Rhannu'r stori