Mynedfa flaen adeilad Grove
Dr Sarah Prior

Dr Sarah Prior

Uwch-ddarlithydd, Biomedical Sciences

Cyfeiriad ebost

122
Llawr Gwaelod
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Sarah Prior yn Uwchddarlithydd y Grŵp Ymchwil Diabetes yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Enillodd ei doethuriaeth yn 2006 gan arbenigo mewn geneteg mitocondriaidd canser, ond ers hynny mae wedi gweithio ym maes ymchwil diabetes. Ymunodd Dr Prior â'r Grŵp Ymchwil Diabetes yn 2007, gan ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng diabetes Math 2 a gordewdra, a'u cydafiachedd cysylltiedig. Bellach mae gan y Grŵp Diabetes ei uned ei hun yn Adeilad Grove ac mae eu hymchwil yn rhan o'r thema “Biomarcwyr a Genynnau”. Mae Dr Prior yn canolbwyntio ar ordewdra cysylltiedig â diabetes Math 2 a nodi biomarcwyr moleciwlaidd ar gyfer y cysylltiad â chydafiachedd cardiofasgwlar o fathau penodol, ac mae ganddi hefyd ddiddordeb brwd mewn llawfeddygaeth bariatrig a cholli pwysau.

Ar wahân i ymchwil diabetes Math 2, mae Dr Prior hefyd yn cydweithio ym maes retinopatheg a'r mecanweithiau wrth wraidd ei gynnydd. Mae Dr Prior yn dysgu ar lefelau israddedig ac ôl-radd, gan gynnwys cynlluniau gradd BSc Geneteg, Geneteg Feddygol a Biocemeg a sawl modiwl ar y Radd Meddygaeth i Raddedigion. Fodd bynnag, mae hi'n fwyaf nodedig am fod yn gyd-gyfarwyddwr rhaglen ar gyfer cwrs ôl-radd MSc mewn Ymarfer Diabetes. 

Meysydd Arbenigedd

  • Diabetes
  • Gordewdra
  • Llawfeddygaeth Bariatrig
  • Hormonau Incretin
  • Straen ocsidiol
  • Dadansoddi mynegiad genynnau
  • Biofarcwyr

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Dr Prior yw Cyd-gyfarwyddwr y Rhaglen MSc mewn Ymarfer Diabetes. Aeth Dr Prior a chydweithwyr o'r Grŵp Ymchwil Diabetes ati i ddatblygu’r rhaglen er mwyn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd am arbenigo mewn diabetes. 

Ymchwil Prif Wobrau