Person yn sefyll o flaen wal yn gwisgo sbectol dywyll

Mae ymchwil newydd wedi datgelu effaith ddifrifol unigrwydd ar bobl awtistig, sy'n gwrth-ddweud y stereoteip eu bod yn osgoi meithrin perthnasoedd cymdeithasol ystyrlon.

Mae ymchwil newydd wedi datgelu effaith ddifrifol unigrwydd ar bobl awtistig, sy'n gwrth-ddweud y stereoteip eu bod yn osgoi meithrin perthnasoedd cymdeithasol ystyrlon. 

Mae unigrwydd yn cael effaith negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol unigolion niwronodweddiadol a niwroamrywiol ac mae cyfraddau unigrwydd ymhlith unigolion awtistig bedair gwaith yn uwch na rhai eu cyfoedion. Mae pobl awtistig hefyd yn fwy agored i ganlyniadau corfforol a seicolegol negyddol unigrwydd. 

Fodd bynnag, mae amgylcheddau cymdeithasol weithiau'n rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n fwy anodd i bobl â lefelau uwch o wahaniaethau synhwyraidd ryngweithio ag eraill. 

Bu astudiaeth newydd, sydd newydd gael ei chyhoeddi gan newyddiadur Autism in Adulthood, yn ymchwilio i brofiadau pobl awtistig. Yn ogystal â mesur y gofid sy'n gysylltiedig ag unigrwydd ceisiodd hefyd ddarparu dealltwriaeth ansoddol o unigrwydd oedolion awtistig. 

Mae'r awduron yn cynnwys Dr Gemma Williams, swyddog iechyd ymchwil y cyhoedd yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Meddai: "Yn yr elfen feintiol o'r astudiaeth, mae ein canlyniadau'n dangos bod gwahaniaethau synhwyraidd yn gysylltiedig â lefelau uwch o unigrwydd a'r iechyd meddwl gwael sy’n dod yn sgîl hynny, mewn oedolion awtistig a rhai nad ydynt yn awtistig. Roedd yr effaith hon yn waeth ymhlith oedolion awtistig oherwydd lefel uwch o wahaniaethau prosesu synhwyraidd." 

Am yr elfen ansoddol o'r astudiaeth, gwnaeth goladu sylwadau gan oedolion awtistig am unigrwydd dwys a rôl rwystro amgylcheddau synhwyraidd, gan wrthbrofi'r stereoteipiau bod diffyg cymhelliant cymdeithasol gan oedolion awtistig. 

Er enghraifft, esboniodd un o'r cyfranogwyr fod lleoliad cartref pobl yn gallu cael effaith fawr ar eu rhyngweithio cymdeithasol. Meddai: "Mae cost cludiant i'r ddinas yn eithaf drud ac yn atal rhai pobl rhag teithio. Felly, yn enwedig os yw pobl yn ddi-waith neu mewn cyflogaeth dros dro neu ar gontractau dim oriau sefydlog lle nad ydyn nhw'n gwybod faint byddan nhw'n cael ei dalu neu faint o oriau maen nhw'n mynd i'w cael o un mis i'r nesaf." 

Yn ystod argyfwng costau byw, gall cwrdd am weithgareddau fod yn amhosib i lawer o unigolion, ond mae pobl awtistig mewn sefyllfa arbennig o anodd am eu bod yn profi anghydraddoldebau ariannol yn aml, nid yn unig oherwydd prinder cyfleoedd cyflogaeth ond oherwydd diffyg cefnogaeth a mynediad at fudd-daliadau hefyd. 

Gyda'i gilydd mae dwy astudiaeth y tîm ymchwil yn cadarnhau bod cysylltiad pwysig rhwng unigrwydd a theimladau o ofid ac iechyd meddwl gwael mewn oedolion awtistig a rhai nad ydynt yn awtistig. 

Ar ben hynny, gall gwahaniaethau synhwyrol mewn byd nad yw'n addasu i broffiliau synhwyraidd amrywiol, beri i bobl deimlo'n fwyfwy eu bod wedi'u hynysu, gan gyfrannu at deimladau o unigrwydd. 

Disgrifiodd un cyfranogwr yr anawsterau roedd wedi'u hwynebu wrth geisio gwneud ffrindiau: "Weithiau, mae'n anodd i mi gael sgwrs neu wneud i'r person arall fy neall achos does gen i ddim yr un prosesau meddwl. Mae hyn yn gwneud pethau'n rhyfedd weithiau ac mae pobl yn meddwl 'beth rwyt ti'n ei ddweud neu 'Dwi ddim yn deall beth ti'n ceisio ei ddweud.'” 

Ychwanegodd un arall: "Dwi'n gwneud ymdrech i gysylltu â phobl, dwi'n ceisio dod o hyd i fy mhobl i ond mae i gyd yn teimlo braidd yn anobeithiol." 

Mae gwahaniaethau synhwyraidd yn enwedig o gyffredin yn y gymuned awtistig, felly gallant ddwysau ffactorau cymdeithasol ac affeithiol eraill, gan arwain yn y pen draw at lefelau uwch o unigrwydd a'r gofid sy'n gysylltiedig â hynny. 

Ychwanegodd Dr Williams: "Daeth hi’n amlwg o’n hymchwil pa mor boenus yw unigrwydd i oedolion awtistig. Daethon ni i'r casgliad bod angen ymdrech go iawn gan gymdeithas i greu lleoedd sy'n ystyried anghenion synhwyraidd pob math o niwroteip er mwyn hwyluso rhyngweithio cymdeithasol ystyrlon a chynhwysol."

Darllenwch ragor am ymchwil i awtistiaeth ym Mhrifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori