Gemma Williams

Dr Gemma Williams

Swyddog Ymchwil, Public Health

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymchwilydd Gyrfa Cynnar awtistig yw Gemma, y bu ei PhD mewn Ieithyddiaeth yn ymchwilio i’r chwaliadau mewn cyd-ddealltwriaeth a all ddigwydd rhwng pobl awtistig ac anawtistig, yn seiliedig ar y syniad o ‘broblem empathi dwbl’. Mae ei hymchwil doethurol hefyd wedi cynnwys ffocws ar unigrwydd mewn awtistiaeth a’r defnydd o fethodolegau creadigol a chyfranogol.

Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe fel Swyddog Ymchwil ar y prosiect ‘Awtistiaeth: o’r mislif i’r menopos’ a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome dan arweiniad Dr Aimee Grant, roedd gan Gemma Gymrodoriaeth Ôl-ddoethurol ESRC ym Mhrifysgol Brighton mewn Polisi Cymdeithasol. Yn ei swydd bresennol mae Gemma hefyd yn tynnu ar ei phrofiad o weithio fel Nyrs Gynorthwyol Mamolaeth a bydwraig dan hyfforddiant yn ei hugeiniau cynnar.

Mae Gemma yn aelod o Gomisiwn San Steffan ar Awtistiaeth ac yn Gydymaith gyda’r Tîm Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant lle mae wedi cyfrannu at nifer o adroddiadau, prosiectau ac ymholiadau a gomisiynwyd gyda’r bwriad o wella’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer pobl awtistig a niwroamrywiol yn y DU, GIG Lloegr a Awdurdodau lleol.

Ar hyn o bryd mae Gemma yn gweithio ar ei monograff ‘Understanding Other in a Neurodiverse World’, sydd i’w gyhoeddi gan Pavilion Press yn 2024.

Meysydd Arbenigedd

  • Awtistiaeth a niwrodargyferiol
  • Cyfathrebu traws-niwroteip
  • Ieithyddiaeth wybyddol (damcaniaeth perthnasedd)
  • Polisi iechyd a gofal cymdeithasol
  • Hunanethnograffeg
  • Methodolegau creadigol
  • Cydgynhyrchu
  • Amgylcheddau synhwyraidd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae gan Gemma gymhwyster addysgu ôl-raddedig (Meistr mewn Addysgu Iaith Saesneg, o Brifysgol Sussex), ac roedd o leiaf 50% ohono'n ffocysu ar addysgeg ac ymarfer.

Cyn mynd i'r byd academaidd treuliodd Gemma wyth mlynedd yn addysgu Saesneg fel iaith dramor mewn nifer o gyd-destunau: o geiswyr lloches, ffoaduriaid ac aelodau o'r gymuned sefydlog yn Brighton, i ddysgwyr Saesneg Busnes. Mae hi hefyd wedi gweithio fel Cynorthwyydd Addysgu i ddarparwr NQV galwedigaethol (Ffasiwn a Cherddoriaeth) gyda phobl ifanc oedd wedi disgyn y tu allan i wasanaethau addysg arferol.

Yn 2021 bu hefyd yn darlithio ar fodiwlau a rennir gan gyrsiau BA mewn Iaith Saesneg, Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg, Iaith Saesneg a’r Cyfryngau a Iaith Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Brighton.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau