Llun digidol o ddau berson mewn swyddfa.

Prifysgol Abertawe yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i lansio Polisi Cyhoeddiadau Ymchwil newydd sy'n ymgorffori egwyddor cadw hawliau, gan sicrhau bod ymchwil a gynhelir yn y Brifysgol drwy gyllid cyhoeddus yn hygyrch, yn agored ac yn gynaliadwy.

Drwy ddatgelu'r polisi hwn, mae'r Brifysgol yn cymryd cam rhagweithiol i rymuso ei hymchwilwyr a chryfhau ei statws blaenllaw ym maes ymchwil academaidd, gan hyrwyddo egwyddorion mynediad agored ac ymchwil dryloyw.

Mae'r fenter arloesol hon wedi cael ei datblygu ar y cyd ac mae'n atgyfnerthu ymrwymiad sefydliadol y Brifysgol i egwyddorion rhyddid academaidd, lledaenu gwybodaeth ac effaith ymchwil.

Mae uchafbwyntiau allweddol Polisi Cadw Hawliau Prifysgol Abertawe'n cynnwys:

  • Cadw Perchnogaeth – Bydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n cadw'r hawliau i'w herthyglau ysgolheigaidd a’u herthyglau mewn cyfnodolion a chynadleddau, yn ogystal â’u penodau mewn llyfrau, gan sicrhau bod ganddynt y rhyddid i rannu a lledaenu eu gwaith pryd a ble bynnag sy'n briodol yn eu barn hwy, gan ddefnyddio trwydded Creative Commons (CC-BY 4.0).
  • Mandad Mynediad Agored – Mae'r polisi'n cyd-fynd ag egwyddorion mynediad agored, sy'n gorfodi ymchwilwyr i roi'r llawysgrifau a dderbyniwyd o'u herthyglau mewn cyfnodolion a chynadleddau a'u penodau mewn llyfrau ar gael i'r cyhoedd yng nghronfa sefydliadol y Brifysgol, Cronfa. Bydd hyn yn sicrhau bod yr allbynnau ymchwil hyn yn hygyrch am ddim i'r gymuned fyd-eang heb unrhyw embargo na thâl.

Meddai'r Athro Biagio Lucini, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Diwylliant Ymchwil: “Prif ddiben gwaith ymchwil yw gwasanaethu lles y gymdeithas ac rwy'n cytuno'n llwyr ag egwyddor cadw hawliau gan awduron y gwaith ymchwil ac rwy'n ei chymhwyso i'm holl gyhoeddiadau.

“Mae cadw hawliau drwy drwydded oddefol fel CC BY 4.0 yn hollbwysig wrth gyflawni cenhadaeth gwaith ymchwil. Mae'n galluogi awduron i gyfleu eu canfyddiadau'n effeithiol i gynulleidfa amrywiol gan ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau, o gyfryngau arbenigol traddodiadol i'r cyfryngau cymdeithasol. Drwy ehangu'r gynulleidfa a'r gronfa o fuddiolwyr posib, mae'r ymagwedd hon yn sicrhau bod y gwaith yn fwy gweladwy ac mae'n grymuso darllenwyr i ymwneud yn llawn ag ef, heb orfod gofidio am dorri hawlfraint. Ar yr un pryd, mae awduron yn cadw rheolaeth lwyr ar eu cyhoeddiadau ac yn derbyn cydnabyddiaeth gywir am eu cyfraniadau.”

Darllenwch y Polisi Cyhoeddiadau Ymchwil.

Cysylltwch â thîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell er mwyn cael rhagor o wybodaeth: LibraryResearchSupport@abertawe.ac.uk | 01792 295931.

Rhannu'r stori