Cyn-arlywydd yr Unol Daleithiau, Bill Clinton. yr Ysgrifennydd Hillary Clinton, y Prif Weinidog Mark Drakeford, yr Athro Paul Boyle Is-ganghellor

Cyn-arlywydd yr Unol Daleithiau, Bill Clinton, yr Ysgrifennydd Hillary Clinton, y Prif Weinidog Mark Drakeford, yr Athro Paul Boyle Is-ganghellor

Bu cyn Ysgrifennydd yr Unol Daleithiau, Hillary Rodham Clinton, a'i gŵr, cyn Arlywydd yr Unol Daleithiau, Bill Clinton, yn rhannu eu barn am yr heriau a fydd yn wynebu arweinwyr y dyfodol gerbron cynulleidfa a lenwodd Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.

Hwn oedd ymweliad cyntaf yr Ysgrifennydd Clinton ag Abertawe ers 2019, ac yn ymuno â hi mewn digwyddiad cyhoeddus a gynhaliwyd gan y Brifysgol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru roedd ei gŵr, yr Arlywydd Clinton.

Roedd y ddau yn westeion anrhydeddus mewn trafodaeth arbennig a ganolbwyntiodd ar heriau byd-eang. Yn ymddangos gyda nhw ar y llwyfan, roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, ac Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle, mewn sgwrs a oedd hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd denu pobl ifanc i rolau arweinyddiaeth.

Bu'r cyn Ysgrifennydd Gwladol yn annerch y gynulleidfa o 600 o bobl a oedd yn cynnwys myfyrwyr Rhwydwaith Seren o ysgolion a cholegau addysg bellach lleol, a bu’n siarad am gyfres o faterion gan gynnwys hunaniaeth genedlaethol a chenedlaetholdeb, yr argyfwng hinsawdd a’r heriau wedi’u peri gan ddatblygiadau technolegol y dyfodol.

Gwnaeth hi hefyd annog pobl ifanc i ddilyn eu huchelgeisiau, hyd yn oed yn wyneb anawsterau.

Meddai: “Os ydych chi’n meddwl y gallwch chi wneud gwaith da ac yn credu y gallwch chi wneud gwahaniaeth, rhaid i chi fynd allan a mentro. Rwy’n dilyn y syniad y gallwch chi gymryd beirniadaeth o ddifrif ond nid yn bersonol.

“Rhaid i chi feithrin yr hyder i beidio â chael eich llethu gan ymosodiadau a chyngor negyddol.”

Ychwanegodd: “Gadewch i ni geisio cael arweinwyr sy’n fodlon bod yn atebol a chymryd cyfrifoldeb am eu gwasanaeth, yr hyn maen nhw’n ei wneud a’r hyn maen nhw’n credu ynddo. Mae angen dinasyddiaeth arnom, nid arweinyddiaeth yn unig.”

Roedd gan yr Arlywydd Clinton ragor o gyngor ar gyfer y gynulleidfa: “Yn y byd rydym yn byw ynddo, lle mae pobl yn lladd ei gilydd oherwydd gwahaniaethau go iawn a rhai dychmygol, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cael amgylchedd cwrtais a theg lle mae rhywun yn cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau.

 “Rwy’n eirioli dros ddod i adnabod pobl sy’n anghytuno â chi a dod â phobl ynghyd mewn ffordd lle mae’n ddiogel anghytuno.”

Adeiladodd yr ymweliad diweddaraf hwn â’r Brifysgol ar y berthynas hirsefydlog rhwng y sefydliad a'r Ysgrifennydd Clinton, a arweiniodd at enwi ei Ysgol y Gyfraith ar ei hôl - Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.

Gan annog pobl ifanc yn y gynulleidfa i chwarae eu rôl yn nyfodol Cymru, meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Rwy’n hoffi’r syniad o ddemocratiaeth arbenigedd yn fawr. Pan fyddwch chi’n wynebu problem y mae angen mynd i’r afael â hi, y cwestiwn cyntaf dylech chi fod yn gofyn i chi eich hun yw pa gyfraniad gallaf i ei wneud i ddatrys y broblem – nid beth mae rhywun arall yn mynd i wneud amdani.

 “Mae gan bawb gyfle i leisio eu barn a chael eu cyfraniad wedi’i gydnabod ond mae gennych gyfrifoldeb hefyd i beidio â gwneud yr hyn sy’n hawdd. Y peth anodd yw gofyn i chi eich hun beth gallwch chi ei wneud i wella pethau.”

Yn ystod eu hymweliad, bu'r Ysgrifennydd a’r Arlywydd Clinton hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiad codi arian i gefnogi rhaglen Ysgoloriaethau Noddfa'r Brifysgol, sy'n cynnig cyfleoedd i bobl sy'n ceisio lloches yn y DU i gyrchu addysg uwch.

Meddai'r Athro Boyle: "Mae hi wedi bod yn fraint cryfhau ein cyfeillgarwch â'r Ysgrifennydd Clinton ymhellach a chroesawu'r Arlywydd Clinton i Abertawe am y tro cyntaf. Roedden ni wrth ein boddau'n arddangos cryfderau ac effaith ein Prifysgol i'n gwesteion ond hefyd yn rhannu eu hamser gyda ni â chynifer o fyfyrwyr lleol a phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol. Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth wrth gynnal digwyddiad mor bwysig i'n rhanbarth ac i Gymru."

Mae gan yr Ysgrifennydd Clinton gysylltiadau teuluol â Chymru, ac ymwelodd â Phrifysgol Abertawe am y tro cyntaf yn 2017. Ers hynny, mae hi wedi dychwelyd sawl gwaith, gan gynnwys i gwrdd â myfyrwyr ar raglen Ysgoloriaethau Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton.

Rhannu'r stori