Logo Gwobrau Targetjobs.

Mae Rhaglen Cymorth i Raddedigion Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tîm gyrfaoedd a chyflogadwyedd addysg uwch y flwyddyn yng Ngwobrau Recriwtio Graddedigion Cenedlaethol targetjobs 2023.

Mae'r wobr yn dathlu cyflawniadau sefydliadau neu dimau addysg uwch sydd wedi cael effaith sylweddol, gan sicrhau bod eu myfyrwyr a'u graddedigion wedi'u paratoi i gyflawni eu potensial wrth chwilio a chyflwyno ceisiadau am rolau i raddedigion.

Mae'r Rhaglen Cymorth i Raddedigion, a ariennir drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn helpu graddedigion diweddar sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth i lywio'r farchnad swyddi anodd.

Mae'r rhaglen yn galluogi graddedigion i gael cymorth drwy amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys:

  • Y Cwrs Datblygu Gyrfa i Raddedigion. Rhaglen ar-lein y gall unigolion ei chwblhau yn eu hamser eu hun i ddatblygu eu sgiliau parodrwydd am waith, rhoi hwb i'w hyder a meithrin gwytnwch mewn amgylchedd heb bwysau a barn.
  • Cyngor ar yrfaoedd un i un gan dîm ymroddedig a gwybodus.
  • Mynediad at raglen hyfforddiant byw o gyrsiau sgiliau trosglwyddadwy a thechnegol.
  • Y cyfle i gyflwyno cais am fwrsariaeth gwerth hyd at £200 i gefnogi gweithgareddau cyflogadwyedd a hyd at £500 am ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • Mynediad at ffair yrfaoedd i raddedigion a digwyddiadau cyflogadwyedd unigryw.
  • Y cyfle i gwblhau interniaeth, wedi'i hariannu'n llawn uwchlaw'r Cyflog Byw am hyd at 3 mis, gyda sefydliadau yng Nghymru.

Mae'r Rhaglen Cymorth i Raddedigion wedi cefnogi 460 o raddedigion ers ei chyflwyno yn 2020 ac mae'n rhan o Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe.

Mae hefyd wedi bod yn fuddiol iawn i'r gymuned fusnes leol, gan gefnogi dros 30 o fentrau bach a chanolig yng Nghymru, busnesau lleol a'r gymuned academaidd ehangach yn Abertawe, gyda graddedigion yn cyfrannu at brosiectau ymchwil ar draws cyfadrannau'r Brifysgol.

Dyma a ddywedodd Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe, am gyrraedd y rhestr fer:"Mae enw da gan wobrau recriwtio graddedigion cenedlaethol targetjobs yn ein sector, ac mae'n fraint cael ein henwebu.

"Crëwyd Rhaglen Cymorth i Raddedigion Abertawe mewn ymateb i Covid-19 a'r sefyllfa newydd a oedd yn wynebu ein graddedigion, lle roedd llawer llai o gyfleoedd cyflogaeth ar gael iddynt.

"Datblygodd y Rhaglen Cymorth i Raddedigion yn gyflym yn rhan hanfodol o'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Abertawe, gan roi cyngor ac arweiniad hanfodol, codi dyheadau graddedigion, datblygu sgiliau a rhwydweithiau allweddol ac, yn y pen draw, gweld ein graddedigion yn cyflawni eu rolau dymunol ar lefel raddedig yn y diwydiannau o’u dewis.

"Mae'n codi calon gweld staff y Rhaglen Cymorth i Raddedigion yn cael eu cydnabod am eu gwaith caled a'u creadigrwydd".

Bernir y wobr gan banel o gyflogwyr graddedigion ac arbenigwyr diwydiannol annibynnol.

Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi ddydd Iau, 23 Mawrth 2023, mewn seremoni a gynhelir yn JW Marriott Grosvenor House, Llundain.

Rhannu'r stori