symbol siâp wyth glas golau ar gefndir glas

Cynhelir Cynhadledd Wanwyn Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC) ar ddydd Gwener, 24 Mawrth  yn Stadiwm Swansea.com. Mae'r gynhadledd yn wahoddiad agored i hyrwyddwyr amgylcheddol o bob rhan o Dde Cymru a thu hwnt i drafod sut y gall ymdrechion cynyddrannol sydd wedi'u cynllunio'n dda gael effaith sylweddol.

Mae rhaglen CEIC yn galluogi cydweithwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector i gydweithio a chreu cymunedau ymarfer (COP) i ddatblygu atebion arloesol i’r her fwyaf sy’n wynebu ein cenhedlaeth.

Yn ystod y bore, bydd ystod o brif siaradwyr yn cyflwyno ar ystod eang o bynciau yn ymwneud â’r Economi Gylchol ac effaith yr argyfwng Hinsawdd yn fyd-eang.

Prif siaradwyr

Professor Elwen Evans KC

Phil Reid, Rheolwr Cynnyrch, Adeiladwr Cymunedol ac Arweinydd Dysgu Cymdeithasol, Prif Swyddog Technoleg, JPMorgan Chase: Tanio gallu eich pobl drwy gymunedau ymarfer 

Dr Emil Evenhuis - ymchwilydd Datblygu Trefol a Rhanbarthol yn yr Adran Trefoli a Thrafnidiaeth Asiantaeth Asesu Amgylcheddol PBL yr Iseldiroedd. Goblygiadau gofodol trawsnewid i Economi Gylchol a Chynaliadwy: Canfyddiadau o astudiaeth senario yn yr Iseldiroedd

Bydd y Gynhadledd hefyd yn arddangos y gwaith anhygoel sy’n digwydd ar draws gwasanaethau cyhoeddus De Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Bydd nifer o'r carfannau sydd wedi bod yn cymryd rhan yn rhanbarthau Bae Abertawe a Phrifddinas Caerdydd yn cyflwyno'r gwaith arloesol y maent wedi bod yn ei wneud ar CEIC ac yn eu sefydliadau.

Bydd y gynhadledd yn creu cyfleoedd i gwrdd â chyfranogwyr presennol a blaenorol i ddysgu am yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud ac i siarad â thîm CEIC.

Amlinelliad o'r Gynhadledd

Sesiwn y Bore: Dewch i glywed gan ein prif siaradwyr, a dysgu mwy am yr ymdrechion y mae cyfranogwyr CEIC Cymru yn eu gwneud er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Sesiwn y Prynhawn: Sut olwg fydd ar ddyfodol Cymru? Mae hwn yn fforwm agored i gyfranogwyr, Cyn-fyfyrwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn siapio dyfodol cynaliadwy yng Nghymru gan gynnwys ymgorffori egwyddorion Economi Gylchol.

Bydd Cynhadledd Wanwyn CEIC yn ddigwyddiad hybrid, gyda chyflwyniadau yn y cnawd a rhai wedi'u ffrydio’n rhithwir. Gallwch roi gwybod i ni a ydych am fynychu yn y cnawd neu'n rhithwir pan fyddwch yn dewis eich math o docyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Gynhadledd Wanwyn CEIC, anfonwch e-bost atom ar ac gofrestru: CEIC Conference

 

 

Rhannu'r stori