Grŵp o chwe dyn ac un fenyw yn sefyll tu fewn yn edrych tuag at gamera

(O’r chwith) Dr Balwinder Bajaj, Mark Davies, Paul Jackson, Stuart Swan, Athro Kenneth Mckeegan, Tim Hunt a Kathy Chamberlain.

Mae myfyrwyr meddygaeth yn Abertawe wedi derbyn cymorth ariannol hanfodol er mwyn manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant gwerthfawr.

Cyflwynwyd rhodd o £10,000 i Ysgol Feddygaeth y Brifysgol gan The Hospital Saturday Fund, elusen cymorth iechyd sydd hefyd yn cynnig cymorth ar gyfer hyfforddiant meddygol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon.

Defnyddir yr arian tuag at gost darparu lleoliadau gwaith meddygol, sef rhan annatod o'r Cwrs Meddygaeth i Raddedigion sy'n rhoi i fyfyrwyr y cyfle i gael profiad amhrisiadwy cyn iddynt adael y Brifysgol i ddechrau eu gyrfaoedd.

Gall myfyrwyr ddewis eu lleoliadau gwaith eu hunain, gan eu galluogi nhw i fanteisio ar gyfleoedd dysgu na fyddent wedi bod ar gael iddynt fel arall. Bydd rhai myfyrwyr yn dewis lleoliadau gwaith mewn sefydliadau uchel eu parch neu mewn clinigau arbenigol adnabyddus, tra bydd myfyrwyr eraill yn chwilio am leoliadau gwaith mewn arbenigeddau penodol. 

Fodd bynnag, mae lleoliadau gwaith wedi dod yn fwyfwy drud o ganlyniad i gostau llety ac yswiriant a chostau eraill felly bydd y cymorth ychwanegol a ddarperir gan yr elusen yn helpu i uchafu cyfleoedd lleoliad gwaith posibl i fyfyrwyr o bob math o gefndir  economaidd-gymdeithasol.

Ymwelodd Prif Weithredwr Grŵp yr Elusen, Paul Jackson a Mark Davies, Is-gadeirydd Cynllun Iechyd yr elusen ag Abertawe i gwrdd â chynrychiolwyr o'r Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys myfyrwyr, i glywed mwy am sut y bydd y cyllid yn helpu i wella eu hyfforddiant. 

Dywedodd Dr Balwinder Bajaj, Arweinydd Lleoliadau Gwaith Meddygol ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydym yn ddiolchgar am gymorth yr Hospital Saturday Fund ar gyfer rhaglen lleoliadau gwaith meddygol y cwrs Meddygaeth i Raddedigion.

“Mae hyn yn sicrhau mynediad at gyfleoedd dysgu iechyd byd-eang ar gyfer ein myfyrwyr er budd gofal cleifion y dyfodol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.”

Dywedodd Mr Jackson: “Rydym ni yn y Hospital Saturday Fund yn ymrwymedig i gefnogi lleoliadau gwaith meddygol ac rydym yn ymwybodol o'r effaith enfawr y bydd hyn yn ei chael ar brofiad dysgu'r myfyrwyr er mwyn iddynt fod y genhedlaeth nesaf o feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol gwych.

“Edrychwn ymlaen at weld effaith gadarnhaol ein grant ar fyfyrwyr meddygaeth 2024 yn Abertawe.”

 

Rhannu'r stori