Mae logo Sgiliau NØW (Sero Net Cymru) yn wyrdd ac mae'r Ø yn NØW yn ymgorffori draig goch Cymru a deilen werdd.

Mae Prifysgol Abertawe ar fin gwneud cyfraniad allweddol at lywio'r sgiliau y bydd eu hangen ar y gweithlu i gyflawni sero net, ar ôl sicrhau cyllid gan raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe i sefydlu prosiect Sgiliau Sero Net Cymru (NØW).

Nod y prosiect yw creu rhwydwaith cyfnewid gwybodaeth i gefnogi busnesau, ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch y rhanbarth yn barod ar gyfer y dyfodol ar draws sectorau allweddol ynni a gweithgynhyrchu sy’n datblygu. 

Mae hyn yn cyd-fynd â buddsoddiadau blaenllaw Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol tuag at gyflawni nodau sero net a meithrin gwytnwch economaidd. Mewn cydweithrediad â byd diwydiant a'r byd academaidd, bydd Sgiliau NØW Prifysgol Abertawe'n darparu model hyblyg sy'n manteisio ar ddatblygiadau o ran dysgu dan arweiniad, addysgu wyneb yn wyneb a sesiynau ymarferol.

Gall cyfranogwyr gael mynediad at gyrsiau byr sy'n rhoi cymhwyster ardystiedig at ddibenion datblygiad proffesiynol parhaus neu ennill credydau, a defnyddio'r rhain i adeiladu cymwysterau neu ennill y sgiliau y mae eu hangen arnynt ar gyfer eu rôl.

Bydd y prosiect hefyd yn ymgymryd â gwaith allgymorth gydag ysgolion a cholegau ar draws y rhanbarth i gynorthwyo wrth ddiogelu dyfodol y gweithlu drwy roi'r wybodaeth am sero net a'r sgiliau y mae eu hangen arnynt.

Meddai arweinydd y prosiect, Dr Khalil Khan o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg:

“Yr her ddiwydiannol fawr nesaf yw datgarboneiddio ac mae canolbwyntio ar sgiliau yn y maes hwn yn hollbwysig i lwyddiant uchelgeisiau Cymru i gyrraedd sero net. Mae'n hysbys iawn y bydd nodi, datblygu a darparu sgiliau yn hanfodol wrth gyflawni'r dyhead i ddatgarboneiddio fel y bydd y gweithlu a busnesau presennol yn parhau i fod yn gystadleuol ac y bydd ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yn darparu cyflenwad cyson o bobl dalentog.”

Ychwanegodd arweinydd y rhaglen Sgiliau a Thalentau, Jane Lewis o Fargen Ddinesig De-orllewin Cymru:

“Bydd y prosiect hwn yn helpu i gyfrannu at fynd i'r afael â bylchau o ran sgiliau gwyrdd yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus mewn cysylltiad â diwydiannau sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu. Bydd y cyrsiau'n meithrin gwybodaeth a sgiliau, ac yn nodi llwybrau addysg/gyrfa i gefnogi Cymru wrth gyflawni'r nodau sero net cenedlaethol.”

Mae'r rhaglen wedi cael ei datblygu gyda phartneriaid diwydiannol i dargedu'r sgiliau y mae eu hangen mewn lleoliadau gweithgynhyrchu. Ar ôl y cam peilot un flwyddyn, y gobaith yw y caiff y rhaglen ei hehangu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynyddu cyfleoedd am swyddi a'r cyflenwad o bobl dalentog ar draws y rhanbarth, yng Nghymru a'r tu hwnt.

 Am ragor o fanylion, e-bostiwch fse-netzeroskills@abertawe.ac.uk neu ewch i wefan Sgiliau NØW.

Rhannu'r stori