Menyw mewn masg wyneb

Mae astudiaeth gynhwysfawr o Farn y Cyhoedd ar Bandemig Covid-19 (PVCOVID) wedi datgelu canfyddiadau allweddol a mewnwelediadau gwerthfawr sy'n taflu goleuni ar brofiadau'r cyhoedd yn ystod y pandemig.

Mae’r astudiaeth, a gynhaliwyd dros dair blynedd (2020-2023) dan arweiniad tîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnig gwersi gwerthfawr i lunwyr polisi a swyddogion iechyd y cyhoedd wrth iddynt ymdrin ag argyfyngau iechyd y cyhoedd nawr ac yn y dyfodol.

Un o ganfyddiadau mwyaf arwyddocaol yr astudiaeth yw cydymffurfiaeth gyson uchel y cyhoedd â mesurau Covid-19. Yn groes i dybiaethau cynnar o "flinder", dilynodd y rhan fwyaf o unigolion y rheolau a'r arweiniad yn ddiwyd, hyd yn oed yn ystod amserau heriol megis y cyfnodau clo a hunanynysu.

Serch hynny, wrth i'r pandemig fynd rhagddo, daeth pobl yn llai pryderus am Covid-19, gan olygu bod rhai pobl yn llai diwyd wrth lynu wrth fesurau ac arweiniad amddiffynnol.

Mae'r astudiaeth hefyd yn datgelu derbyniad uchel o'r brechlyn, er bod pigiadau atgyfnerthu a brechlynnau i blant wedi cael llai o gefnogaeth a derbyniad.

Thema barhaus yn ystod y pandemig oedd diffyg ymddiriedaeth yng nghamau gweithredu a chyfathrebu'r llywodraeth o ran Covid-19. Gwnaeth diffyg ymddiriedaeth yn y ffordd y gwnaeth y llywodraeth ymdrin â’r pandemig leihau parodrwydd pobl i lynu wrth y canllawiau gan effeithio ar gyfraddau brechu. Roedd unigolion a oedd yn betrus am gael y brechlyn yn fwy tebygol o gysylltu'r brechlynnau â diddordebau'r llywodraeth, lle roedd y rhai a oedd yn derbyn y brechlynnau'n ymddiried yn yr wybodaeth gan arbenigwyr gofal iechyd a gwyddonwyr.

Arweiniodd dryswch oherwydd newidiadau rheolaidd i reoliadau ac arweiniad Covid-19 at flinder ymysg y cyhoedd. Roedd hi’n her i lawer o unigolyn gadw i fyny â'r wybodaeth newydd, a gafodd effaith negyddol ar gydymffurfiaeth a achosodd i rai pobl anwybyddu newyddion a oedd yn ymwneud â Covid-19.

Roedd cydbwyso'r angen am wybodaeth â gormod o wybodaeth yn her fynych. Roedd camwybodaeth a theorïau cynllwyn wedi ffynnu yn ystod y pandemig, yn enwedig ymysg cymunedau sy'n dibynnu'n helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.   Gwnaeth "siambrau atsain Covid" ar-lein waethygu'r problemau hyn, gan arwain at ddiffyg ymlyniad a phetruster o ran brechlynnau.

Roedd anghysondeb o fewn rheolau penodol a rhyngddynt, rhwng pedair cenedl y DU, hefyd wedi creu dryswch ymysg y cyhoedd. Teimlai llawer fod rheolau anghyson wedi rhwystro eu gallu i ddilyn y canllawiau'n effeithiol.

Er bod cydymffurfio â mesurau wedi parhau'n uchel, roedd pwysau emosiynol ac iechyd meddwl difrifol ar unigolion.   Roedd colli rhyngweithiadau cymdeithasol, incwm a threfn ddyddiol yn ystod y cyfnodau clo wedi arwain at golled seicolegol ac emosiynol, gan gynnwys colli ysgogiad a hunanwerth.

Effeithiodd baich emosiynol a seicolegol y pandemig yn anghymesur ar gymunedau ag incwm isel a chyflogaeth ansefydlog.

Meddai Dr Simon Williams, un o arweinwyr yr astudiaeth: "Roedd ein hastudiaeth yn unigryw o ran ei bod yn dilyn bywydau pobl gyffredin yn ystod amser digyffelyb. Yn wahanol i lawer o brosiectau ymchwil sydd naill ai'n gofyn i bobl fyfyrio ar eu profiadau yn y gorffennol neu’n archwilio adeg mewn amser, taflodd ein prosiect oleuni ar aberth, dioddefaint ac undeb pobl wrth iddo ddigwydd. Mae ein gwaith yn 'brosiect gwrando' annibynnol sy'n cofnodi sut gwnaeth Covid effeithio ar bobl ".

Mae'r astudiaeth yn cynnig gwersi pwysig ar gyfer rheoli argyfyngau iechyd y cyhoedd yn y dyfodol:

  • Ymddiried mewn Pobl: Dylai llunwyr polisi gael hyder bod y cyhoedd yn debygol o ddilyn rheolau ac arweiniad pan fyddant yn cael y cymorth a'r cyfleoedd angenrheidiol.
  • Meithrin Ymddiriedaeth mewn Llywodraethau: Dylid gwneud ymdrech i feithrin ymddiriedaeth mewn llywodraethau a sefydliadau a'i chynnal, gan ddefnyddio negeseuwyr dibynadwy fel gwyddonwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gyfleu arweiniad pwysig.
  • Mynd i'r afael â chamwybodaeth: Dylai rhanddeiliaid gydweithio i drechu camwybodaeth a theorïau cynllwyn, sy'n atal pobl rhag glynu wrth ganllawiau.
  • Rheolau clir a chyson: Mae rheolau clir, cyson sydd wedi'u cyfleu’n dda yn hanfodol i fwyafu cydymffurfiaeth.
  • Cydbwyso Gwybodaeth: Mae taro cydbwysedd rhwng rhoi gwybodaeth eglur ac osgoi rhoi gormod o wybodaeth yn hollbwysig ar gyfer cyfathrebu effeithiol.
  • Darparu Cymorth: Mae cymorth priodol, gan gynnwys cymorth emosiynol ac iechyd meddwl, yn angenrheidiol i unigolion sy'n glynu wrth ganllawiau, yn enwedig yn ystod argyfyngau estynedig.

Ychwanegodd Dr Williams: " Yn ogystal â bod yn berthnasol i Covid dros y tair blynedd diwethaf, mae llawer o’n canfyddiadau yn heriau – yn enwedig sut i fynd i’r afael âchamwybodaeth, a phetruster parhaus o ran cael brechlynnau, a hefyd sut i gyfleu argyfyngau iechyd y cyhoedd mewn oes lle ceir gormod o wybodaeth.  Canfuwyd hefyd fod anghydraddoldebau sy'n bodoli eisoes yn ein cymdeithas yn rhagfynegydd da o ran faint y gwnaeth pobl ymaflyd a dioddef yn ystod Covid. Roedd hwn yn bandemig anghyfartal".

Mae astudiaeth PVCOVID yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i brofiadau'r cyhoedd yn ystod pandemig Covid-19, gan amlygu pwysigrwydd ymddiriedaeth, cyfathrebu clir a chymorth i reoli argyfyngau iechyd y cyhoedd. Bydd y gwersi hyn, heb amheuaeth, yn llywio strategaethau a pholisïau'r dyfodol ar gyfer ymateb i bandemig ac argyfyngau eraill.

Rhannu'r stori