Emma Frearson Emmanuel, Cyfarwyddwr Cysylltiol Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, ar y llwyfan yn dal y wobr, yn sefyll wrth ymyl (chwith) Julia Lambo, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol ac ESG yn Navitas, ac (ar y dde) Scott Jones, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp yn Navitas.

(L-R) Julia Lambo, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol ac ESG yn Navitas, Emma Frearson Emmanuel, Cyfarwyddwr Cysylltiol Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, ac Scott Jones, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp yn Navitas.

Prifysgol Abertawe yw enillydd cyntaf erioed Gwobr Effaith Navitas am ei harloesedd a'i hymroddiad i greu effaith well ar yr amgylchedd.

Mae Gwobrau Effaith Navitas yn cydnabod mentrau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu sy'n creu newid cadarnhaol ar draws y sector addysg.

Cydnabuwyd bod y Brifysgol yn sefydliad rhagorol ar gyfer ymchwil, addysgu a gweithrediadau o ran cynaliadwyedd a charbon sero, ynghyd â gwreiddio Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ym mhopeth y mae'n ei wneud.

Ers datgan argyfwng hinsawdd yn 2019, mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn arwain y ffordd o ran strategaethau a gweithredoedd ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol.

Drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, mae'r Brifysgol eisoes wedi llwyddo i leihau ei hallyriadau cwmpas 1 a chwmpas 2 34%.

Meddai Teifion Maddocks, Rheolwr Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe: “Gall y daith i gynaliadwyedd amgylcheddol ymddangos yn hynod anodd weithiau; serch hynny, ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni wedi ymateb i'r her ac rydyn ni’n falch o’r gydnabyddiaeth hon o'r ynni hyd yn hyn wrth arwain y daith tuag at sero net a champysau a chymunedau ehangach sy'n gadarnhaol o ran natur.

“Boed drwy arweinyddiaeth ac ymrwymiad i wneud cynaliadwyedd yn alluogydd allweddol yn ein gweledigaeth a'n pwrpas, ymgyrch ein cydweithwyr Ystadau i ddatgarboneiddio adeiladau a chynyddu bioamrywiaeth ar y campws, neu ymdrechion unedig myfyrwyr ac aelodau staff eraill sy'n hyrwyddo addysg, ymchwil a gweithredoedd cynaliadwy, mae ymdrechion pawb yn ofynnol ac yn cael eu gwerthfawrogi.”

Cyhoeddwyd y gwobrau cyntaf erioed i gynulleidfa o fwy na 200 o weithwyr proffesiynol ym maes addysg uwch o bedwar ban byd yn ystod cynhadledd partneriaid busnes flynyddol Navitas yn Bangkok.

Derbyniodd Emma Frearson Emmanuel, Cyfarwyddwr Cyswllt Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol, y wobr ar ran Tîm Cynaliadwyedd y Brifysgol.

Meddai Emma: “Roedd hi'n anrhydedd derbyn Gwobr Effaith Navitas, yn enwedig o ystyried y gystadleuaeth gref iawn gan sefydliadau sy'n gwneud gwaith gwych.

“Rydyn ni'n hynod falch o gyfraniad hollbwysig Prifysgol Abertawe at ddatblygu cynaliadwy yn y rhanbarth, y DU ac yn fyd-eang, ac mae'n anrhydedd cael ein cydnabod am ein hymdrechion i liniaru newid yn yr hinsawdd, ein gwydnwch a’n hymdrechion i ymaddasu.”

Meddai Julia Lambo, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Corfforaethol a Mentrau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu yn Navitas: “Bu'n bleser mawr i ni gyflwyno Gwobr Effaith Navitas gyntaf erioed i Brifysgol Abertawe.

“Cawson ni restr anhygoel o enwebiadau sy'n haeddu cael eu dathlu, ond gwnaeth ymrwymiad Prifysgol Abertawe i leihau ei heffaith ar yr amgylchedd greu argraff fawr ar y panel beirniadu. Dylai’r Brifysgol fod yn falch iawn o'i mentrau o'r radd flaenaf sydd wrthi'n creu byd gwell.”

Rhagor o wybodaeth am Gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori