Yr Athro Judith Lamie a rhai o raddedigion Prifysgol Abertawe yn y derbyniad i gyn-fyfyrwyr yn Shanghai.

Mae Prifysgol Abertawe ymhlith nifer bach o brifysgolion a wahoddwyd i ymuno â Chenhadaeth Addysg Uwch y DU i Tsieina 2023 i gryfhau cysylltiadau academaidd rhwng y ddwy wlad.

Trefnwyd yr ymweliad gan y British Council, Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) , ac Universities UK International (UUKi), a daeth Is-gangellorion ac uwch-arweinwyr o 20 o brifysgolion y DU ynghyd.

Roedd yr Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymgysylltu Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, ymhlith y cyfranogwyr nodedig.

Hwn oedd y grŵp mwyaf o'i fath i deithio i Tsieina ers 2019, gan ymweld â Beijing, Shanghai, a Chengdu, lle cwrddodd y grŵp â chynrychiolwyr o 44 o brifysgolion yn Tsieina i feithrin dealltwriaeth well o'r dirwedd addysg uwch yn y wlad. 

Mae Tsieina ymhlith prif farchnadoedd recriwtio myfyrwyr rhyngwladol y DU. Ar ben hynny, y DU yw ail bartner ymchwil mwyaf Tsieina o ran cyd-gyhoeddiadau academaidd, sy'n adlewyrchu llwyddiant y mentrau cydweithredol sydd eisoes ar waith a phwysigrwydd eu parhad.

Wrth siarad am yr ymweliad, dywedodd yr Athro Lamie: "Mae'n bleser gennyf fy mod i wedi cynrychioli Prifysgol Abertawe fel rhan o Genhadaeth Addysg Uwch y DU i Tsieina.

"Roedd hi'n wych cael cyfle i fod yn rhan o lawer o drafodaethau cadarnhaol rhwng prifysgolion yn y DU a Tsieina o ran cydweithio pellach.

"Mae Prifysgol Abertawe’n ffodus bod ganddi rwydwaith byd-eang o bartneriaid, gan gynnwys ein chwaer-ddinas yn Tsieina, Wuhan, sy'n hanfodol wrth gynnal ein hymchwil o safon fyd-eang, cynnig rhagor o gyfleoedd ar gyfer dysgu ac addysgu a chyfleoedd sy'n newid bywydau i fyfyrwyr.  

"Edrychwn ymlaen at adeiladu ar lwyddiant yr ymweliad hwn, gan feithrin cysylltiadau academaidd a phartneriaethau rhyngwladol cryfach fyth." 

Yn ogystal â gweithgareddau swyddogol y genhadaeth, cafodd y cyfranogwyr gyfle unigryw i rwydweithio â graddedigion mewn Derbyniad i Gyn-fyfyrwyr yn Shanghai.

Roedd y noson yn cynnwys trafodaeth banel ysgogol dan arweiniad yr Athro Lamie, a chafodd gwesteion o fri gyfleoedd i rannu eu profiadau a'u mewnwelediadau neilltuol o astudio yn y DU. 

Dywedodd yr Athro Lamie: "Gyda thros 200,000 o gyn-fyfyrwyr ledled y byd, mae hi bob amser yn bleser cael cwrdd â'n graddedigion wyneb yn wyneb, clywed am eu cyflawniadau rhagorol ac ailddatgan pwysigrwydd ein cymuned o gyn-fyfyrwyr yn Tsieina, gan ddathlu eu cyfraniadau at lwyddiant byd-eang y Brifysgol.”

Rhannu'r stori