Abertawe-Wuhan: Partneriaeth Chwaer-Ddinasoedd

Draig Tsieineaidd

Mae cysylltiadau rhwng dinasoedd Abertawe a Wuhan yn dyddio'n ôl i 1855 pan sefydlodd y cenhadwr o Abertawe, Griffith John, Ysbyty Undeb Wuhan.

Cryfhawyd y berthynas hon pan lofnododd cynrychiolwyr o'r ddwy ddinas gytundeb i gydweithredu ym meysydd masnach, trafnidiaeth a logisteg, diwylliant a chwaraeon, twristiaeth ac addysg.

Atgyfnerthwyd y berthynas ymhellach pan lofnodwyd cytundeb chwaer-ddinas yn 2018 er mwyn caniatáu i'r dinasoedd ddysgu gan ei gilydd a rhannu arfer gorau mewn amrywiaeth o feysydd. Mae gan Brifysgol Abertawe berthynas hirsefydlog ag Ysbyty Undeb Wuhan ac mae wedi datblygu cydweithrediadau ym meysydd addysgu, recriwtio ac ymchwil â nifer o brifysgolion y ddinas.

Prifysgol Wuhan

Prifysgol Wuhan

Cydweithio yn y frwydr yn erbyn COVID-19

Cyfarfod rhwng doctoriaid Abertawe a Wuhan

Cydweithio yn y frwydr yn erbyn COVID-19

Oherwydd y cysylltiad unigryw rhwng y Brifysgol a Wuhan, cafodd arbenigwyr meddygol o bob cwr o Gymru gyfle i gydweithio â rhai o'r meddygon cyntaf i fynd i’r afael â her y coronafeirws.

Drwy gynhadledd fideo a drefnwyd rhwng cynrychiolwyr byrddau iechyd Cymru ac uwch-feddygon yn Ysbyty Wuhan, cafodd clinigwyr Cymru sydd yn rheng flaen y frwydr yn erbyn y pandemig ar hyn o bryd gyfle i rannu profiadau a dysgu gan staff a wynebodd her COVID-19 yn nyddiau cynharaf y pandemig. Mynychodd y Llysgennad Prydeinig yn Tsieina, Caroline Wilson CMG, y gynhadledd ddiweddaraf, ym mis Rhagfyr 2020.

 

Canolfan Feddygol ar y cyd Abertawe-Wuhan

Yn 2014 sefydlwyd Canolfan Feddygol Abertawe-Wuhan ar y cyd ag Ysbyty Undeb Wuhan. Bydd y Ganolfan yn hyrwyddo ymchwil yn y gwyddorau clinigol a bywyd ac yn hwyluso ymweliadau cyfnewid rhwng myfyrwyr a staff a chydweithrediadau addysg drwy'r Fforwm Meddygol Blynyddol, Cymdeithas Feddygol y DU-Tsieina, cyhoeddiadau a phrosiectau cydweithredol.

Yn 2015, cynhaliodd Prifysgol Abertawe'r ail Fforwm Meddygol rhwng yr UD a Tsieina a ddarparodd gyfle i arbenigwyr meddygol o'r DU a Tsieina gyfnewid gwybodaeth am bynciau amrywiol, gan gynnwys clefydau esgyrn, canserau gynaecolegol a thechnoleg argraffu 3D at ddiben aildyfu meinweoedd.

 

Ysbyty Cyfeillgarwch Tsieina-Y DU

Argraff arlunydd o'r Ysbyty Cyfeillgarwch

Ysbyty Cyfeillgarwch Tsieina a'r DU

Gan adeiladu ar y berthynas hirsefydlog rhwng Abertawe ac Ysbyty Undeb Wuhan, cyfarfu cynrychiolwyr o'r ddwy ochr yn 2019 i drafod sefydlu Ysbyty Cyfeillgarwch Tsieina a'r DU yn Wuhan.

Bydd y prosiect arfaethedig yn cryfhau cysylltiadau rhwng dinasoedd Abertawe a Wuhan ymhellach a bydd yn cefnogi cydweithrediadau ym meysydd addysg, ymchwil, hyfforddiant a chyfnewid myfyrwyr.

Bydd hefyd yn darparu sylfaen newydd ar gyfer Canolfan Feddygol Abertawe-Wuhan yn ogystal â chyd-gyfleusterau newydd eraill.

Cyhoeddiadau diweddar

CYHOEDDIADAU DIWEDDAR

  • Barrier Lake Formation due to Landslide impacting a River
  • Stochastic Discrete Element Modelling of Rough Particles - A Random Normal Interaction Law
  • The Effect of Noise Intensity on Parabolic Equations
  • Mechatronic Design and Control of a 3D Printed Low Cost Robotic Upper Limb
  • Low Cost, Nature-Based Solutions for Managing Aquatic Resources: Integrating the Principles of Ecohydrology and the Circular Economy

 

Golygfa dros Wuhan

Wuhan

Prifddinas talaith Hubei, mae Wuhan yn ganolfan o bwys am fasnach, cyllid, trafnidiaeth, TG ac addysg.

Mae'n gartref i 35 sefydliad addysg uwch, gan gynnwys Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Huazhong (HUST) a Phrifysgol Wuhan, ill dau wedi'u cydnabod fel Prifysgolion Dosbarth Cyntaf Dwbl Dosbarth A.

Fel yn Abertawe, mae gweithgynhyrchu metelau wedi chwarae rôl bwysig yn economi Wuhan ac, ochr yn ochr â hyn, mae diwydiannau pwysig bellach yn cynnwys electroneg optegol, gweithgynhyrchu moduron, peirianneg fiolegol, fferylliaeth a diogelu amgylcheddol.

Griffith John

Roedd y cenhadwr o Abertawe, Griffith John, yn 24 oed pan hwyliodd am Tsieina ym 1855. Bu'n gwasanaethu Tsieina am 55 o flynyddoedd, ac yn ystod y cyfnod hwn, sefydlodd ysgolion, colegau hyfforddiant ac ysbytai, gan gynnwys Ysbyty Undeb Wuhan.

Bellach yn un o ysbytai mwyaf Tsieina, mae gan Ysbyty Undeb Wuhan fwy na 5,000 o welyau i gleifion mewnol ac mae'n trin dros dair miliwn o gleifion bob blwyddyn. Mae hefyd yn gartref i ganolfan feddygol ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a agorwyd yn 2018. Gellir gweld penddelw o Griffith John gan y cerflunydd Xiang Jinguo a roddwyd i Abertawe gan Ysbyty’r Undeb yn Amgueddfa Abertawe.