Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Llun o'r Athro Keith Lloyd yn y gynhadledd ar-lein.

Llun o'r Athro Keith Lloyd yn y gynhadledd ar-lein.

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi cryfhau ei chysylltiad unigryw â Wuhan drwy gyfrannu at gynhadledd ar-lein ar gyfer ymarferwyr iechyd proffesiynol, yn ogystal â Llysgennad Prydain yn Tsieina, Caroline Wilson CMG, sydd wedi helpu i daflu goleuni ar ofal iechyd a gwaith arloesi yn ystod argyfwng Covid-19.

Gwnaeth y Brifysgol chwarae rôl allweddol, ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn y gynhadledd fideo lle cafodd ei chynrychiolwyr y cyfle i gyfnewid gwybodaeth â'u cymheiriaid o Wuhan am reoli a thrin Covid-19. Gwnaethant hefyd rannu eu profiadau o'r pandemig â'r Llysgennad, a oedd yn ymweld â Wuhan ar y pryd.

Trefnwyd y cyfarfod gan Swyddfa Prif Gonswl Wuhan a Phrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Huazhong, er mwyn atgyfnerthu'r cydweithrediad rhwng Prydain a Tsieina ym maes gofal iechyd ac arloesi.

Y gynhadledd oedd y datblygiad diweddaraf yn y bartneriaeth agos rhwng dinasoedd Abertawe a Wuhan, sy'n dyddio yn ôl i 1855 pan wnaeth Griffith John, y cenhadwr o Abertawe, sylfaenu Ysbyty Undeb Wuhan.

Mae Abertawe wedi mwynhau cysylltiadau â'r ddinas byth ers hynny ac yn 2018 lansiodd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ganolfan feddygol yn Ysbyty Undeb Wuhan i hyrwyddo ymchwil i faterion clinigol a'r gwyddorau bywyd, gan gyfnewid myfyrwyr a staff a chydweithredu at ddibenion addysgol a phroffesiynol.

Meddai'r Athro Keith Lloyd, Deon Gweithredol Cyfadran y Gwyddorau Bywyd ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae meddygaeth yn iaith fyd-eang ac roedd yn fraint cael rhannu profiadau o ofalu am ddioddefwyr Covid-19 â chymheiriaid clinigol o Wuhan a Bae Abertawe. Roedd Llysgennad Prydain, Caroline Wilson, yn llygad ei lle wrth bwysleisio'r cyfleoedd i gryfhau'r cydweithrediad rhwng Prydain a Tsieina ym maes gofal iechyd, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ymhellach y cysylltiad a'r cydweithrediad a sefydlwyd fwy na 150 o flynyddoedd yn ôl gan Griffith John o Abertawe.”

Arloesi ym maes iechyd – mwy o wybodaeth am ein hymchwil. 

Rhannu'r stori